Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: Dim ond un radiolegydd sgrinio
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: Dim ond un radiolegydd sgrinio
Dim ond un radiolegydd sgrinio sydd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd, a hynny dan ofal Bron Brawf Cymru.
Mae rôl y radiolegydd yn hanfodol wrth wneud diagnosis o ganser, ac mi all arafwch yn eu llwyth gwaith achosi oedi mewn triniaeth yn ôl arbenigwyr.
Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth ar frys i fynd i’r afael hefo’r broblem.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod nhw’n gweithio i geisio gwella’r sefyllfa.
A gyda phrinder cenedlaethol mewn arbenigwyr yn y maes, mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod fod recriwtio yn anodd.
Yn ôl un ddynes o Gyffordd Llandudno mae’r cyfnod rhwng y sgan a’r oedi cyn cael y canlyniadau wedi bod yn "hunlle" iddi.
Mi gafodd Sophie Morris, 41 oed, sgan MRI ym mis Chwefror, er nad oedd ganddi ddim symptomau canser y fron, roedd nifer o’i theulu wedi dioddef o'r cyflwr ac felly mae hi’n cael ei sgrinio’n gyson.
Er bod Ms Morris wedi cael y sgan dros chwe wythnos yn ôl, mae hi'n dal i ddisgwyl cael y canlyniadau.
Tydi’r oedi y mae Sophie wedi ei gael ddim yn effeithio canlyniadau sganiau cleifion symptomatig na chwaith yr achosion brys.
Wrth edrych ar ganser y fron, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn awyddus i bwysleisio fod ’na wahanol fathau o radiolegwyr:
62 diwrnod
Radiolegwyr sydd wedi eu cyflogi gan y bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am sganiau cleifion symptomatig, gydag ymgynghorwyr arbenigol yn gofalu am ganlyniadau'r rhaglen sgrinio.
Drwy Gymru ym mis Ionawr, ychydig dros hanner o gleifion ddechreuodd driniaeth ar gyfer canser y fron o fewn 62 niwrnod, sy'n is na tharged y llywodraeth o 75%.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod mynediad i driniaeth canser yn flaenoriaeth, a bod eu rhaglen hyfforddi radioleg wedi ei ehangu yn sylweddol. Maen nhw’n gweithio efo’r byrddau iechyd i sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth cyn gynted â phosib.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae eu gwasanaethau Radioleg yn cael 11,000 o ddelweddu sganio bob wythnos, ac maen nhw’n cadw at dargedau amser cenedlaethol yn gyson.
Er bod rhai cleifion yn gorfod aros am fwy o amser na’r disgwyl, mae’r bwrdd yn gweithio ar brosesau i wella’r sefyllfa.