Newyddion S4C

‘Mae dynion yn colli plant hefyd’: Galw ar dadau i gefnogi ei gilydd mewn galar

31/03/2024
Gwynfor a Deborah Owen

Mae dyn o Wynedd yn galw ar dadau i gefnogi ei gilydd os yw eu partneriaid yn colli babanod yn wythnosau cynnar eu beichiogrwydd.

Fe gollodd Gwynfor a Deborah Owen o Benrhyndeudraeth amryw o fabanod yn yr wythnosau cynnar o feichiogrwydd, gan gynnwys un babi yn 11 wythnos oed ac un arall yn 14 wythnos oed.

Er bod dros 20 mlynedd wedi mynd heibio ers hynny, nid yw Mr Owen wedi anghofio’r profiad “erchyll” o geisio prosesu’r galar ar ei ben ei hun tra’r oedd ei wraig yn yr ysbyty.

“Roedd o’n brofiad erchyll, doedd ‘na neb efo fi i afael yn fy llaw i,” meddai.

“Dwi’n gwybod oedd o’n waeth byth i’r wraig, ond o'n i just yn teimlo’n gyfan gwbl ar ben fy hun.

“Dwi’n cofio cerdded o gwmpas maes parcio’r ysbyty a dynes yn dod ata i yn gofyn a o'n i’n iawn. 

“Nes i ddweud nadw, a cherdded i ffwrdd.”

'Dynion yn colli plant hefyd'

Yn ôl yr elusen colli babanod Tommy's, mae un o bob pum beichiogrwydd yn gorffen gyda chamesgoriad.

Ac er bod colli babi yn gyffredin, nid oes modd i rieni yng Nghymru gael cydnabyddiaeth swyddogol eu bod wedi colli plentyn cyn 24 wythnos o feichiogrwydd.

Dywedodd Mr Owen y dylai Cymru ddilyn Lloegr, sydd wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd rhieni yn cael cynnig tystysgrif i gydnabod eu colled yn swyddogol.

Ond mae'r cynghorydd o Wynedd hefyd yn teimlo bod angen gwneud mwy i gefnogi tadau yn benodol.

“O'n i’n trio ymdopi a dangos cefnogaeth i’r wraig, ond wrth wneud hynny mae rhywun yn anghofio sut mae’n effeithio arnoch chi’ch hun. 

"Mae dynion yn colli plant hefyd, a dylai tadau ifanc fod yn barod iawn i siarad efo’i gilydd. 

"O be fedra i weld, mae rhai dynion yn eu harddegau hwyr a’u hugeiniau cynnar yn barod i siarad. 

“Ond fel mae rhywun yn mynd mewn i’w hugeiniau hwyr ac yn mynd mwy i mewn i’w byd gwaith, efallai bod nhw’n mynd yn llai parod i rannu pan mae 'na wirioneddol angen iddyn nhw wneud.”

Yn ogystal â chael mwy o gefnogaeth i dadau, mae Mr Owen yn dweud bod angen i fyrddau iechyd ganiatáu i’r tad gael aros yn yr ysbyty gyda’r fam yn hytrach na chael ei yrru adref ar ôl i'r amser ymweld ddod i ben. 

Byddai cael amser i ffwrdd o'r gwaith hefyd yn helpu tadau i brosesu'r galar, meddai.

‘Ofn ymateb pobl’

Dywedodd Mr Owen bod agwedd cymdeithas tuag at farwolaeth babi yn yr wythnosau cynnar o feichiogrwydd angen gwella.

“Ar ôl i’r wraig ddod adref o’r ysbyty, ‘chydig iawn iawn o gysylltiad oedd ‘na gan bobl. 

“Doedd ‘na neb yn cysylltu i edrych sut oedden ni’n ymdopi wedi colli plentyn.

“Cyn belled a dwi yn y cwestiwn, roedd 'na ‘farwolaeth wedi bod.

“Ond dw i’m yn meddwl bod cymdeithas yn edrych arno fel marwolaeth.

“Hyd yn oed y dyddiau yma, dwi’n gwybod bod o’n dal i ddigwydd - mae llawer o ferched a theuluoedd yn penderfynu peidio â dweud eu bod nhw’n disgwyl yn y dyddiau cynnar oherwydd bod nhw ofn i hyn ddigwydd. 

“Ond pam bod nhw ofn i hyn ddigwydd? Mae’n siŵr mai ofn ymateb pobl maen nhw.”

Ychwanegodd Mr Owen bod yn rhaid i gymdeithas sylweddoli’r effaith hirdymor mae’n ei gael ar rieni.

“Yn aml mae pobl yn dweud, ‘ti’n lwcus bod o di digwydd yn fuan’. Ond na, dydi hynny ddim yn lwcus.

“Dwi wir yn gobeithio y gall cymdeithas wella i sylweddoli’r effaith mae’n ei chael ar deuluoedd - ddim just ar y funud, ond am weddill eu bywydau.

“Da ni'n dal i feddwl sut fysa plentyn arall ni di troi allan i fod.”

'Blaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwella cymorth iechyd meddwl i deuluoedd yn "flaenoriaeth".

“Mae colli plentyn yn ddinistriol ac rydym am sicrhau ein bod yn darparu’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen ar deuluoedd.

“Mae gwella cymorth iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar waith i leihau amseroedd aros a gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch. 

"Mae gennym gymorth ar gael 24/7, gan gynnwys gwasanaeth ‘111 pwyso 2’ y GIG ar gyfer cymorth brys, a’n llinell gymorth ‘CALL’ ar gyfer y rhai sy’n pryderu am eu hiechyd meddwl.

“Mae’r fframwaith profedigaeth yn nodi’r cymorth y dylai pobl ddisgwyl ei gael os ydyn nhw’n wynebu neu wedi profi profedigaeth. Rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i wasanaethau profedigaeth ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid i weithredu’r ddau lwybr profedigaeth nesaf ar gyfer profedigaeth a beichiogrwydd a cholli babanod plant a phobl ifanc er mwyn darparu dull cyson o ddarparu gofal a chymorth profedigaeth ledled Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.