Pentref Llanrug yn dathlu cysylltiad teuluol â Kieffer Moore
Pentref Llanrug yn dathlu cysylltiad teuluol â Kieffer Moore
Mae un pentref yng Ngwynedd yn falch iawn o'i gysylltiad gydag un o sêr tîm pêl-droed Cymru.
Mae gan Kieffer Moore gysylltiad teuluol gyda phentref Llanrug drwy ei nain a'i daid.
Yn enedigol o Torquay, byddai gyrfa ryngwladol yr ymosodwr wedi gallu bod yn wahanol iawn, gan iddo fod yn gymwys i chwarae dros Loegr.
Byddai Moore wedi gallu bod yn gymwys i chwarae dros China hefyd, drwy gysylltiadau ar ochr ei fam.
Ond, Cymru a gipiodd galon y cawr, sydd wedi serennu yng ngemau Cymru yn ystod eu hymgyrch Euro 2020.
Mae Phil Lynes o Lanrug wedi creu baner enfawr i ddathlu ei gysylltiad â'r pentref.
Y gobaith oedd mynd â'r faner allan i Ewrop, ond, yn hytrach, mae'r faner yn ennill ei lle yng nghalon y pentref.
Dywedodd Mr Lynes, sydd yn helpu i hyfforddi CPD Llanrug: "Wel fel arfer swn i'n mynd a fo i'r gêm, felly o ni 'di gobeithio sa ni 'di cael mynd i'r Euros blwyddyn yma.
"Ond y lle gora nesa' i roid o ydi wrth Spar Llanrug. Felly mae pobl yn pasio drwodd, pobl leol a thwristiaid, ac maen nhw'n gweld Kieffer Moore, hogyn Llanrug. Aru ni roid o fyny diwrnod o'r blaen a phobl canu corn aballu."
Mae trigolion Llanrug yn obeithiol am gêm nesaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn Denmarc.
Dywedodd Robin Whiteside, CPD Llanrug: "Fedrwn ni mynd mor bell â sa ni'n licio rili. Gobeithio gewn ni semi-final ac ella final bach yn Wembley."