Newyddion S4C

Busnesau yn parhau i gael eu heffeithio gan gostau uchel

28/03/2024

Busnesau yn parhau i gael eu heffeithio gan gostau uchel

Paratoi ar gyfer diwrnod prysur arall. Dim ond ers pedair wythnos mae'r bwyty hwn yn y Mwmbwls wedi bod ar agor.

"Mae fe di bod mor fishi. Mae pobl wedi bod nôl tair, pedair, pump gwaith 'ddar i ni agor."

Ond er y dechrau da, mae'r perchnogion yn gwybod ei bod hi'n gyfnod heriol.

"Mae costau popeth yn mynd lan shwt gyment. Ni wedi 'neud shwt gyment o research mewn i bopeth. 'Sdim rhaid dod a chael platiau mawr. Maen nhw'n gallu bod yn platiau bach. Chi'm yn gorfod hala lot o arian i ddod mewn i gael bwyd. Ni ddim ond ar agor dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a Sul."

Dafliad carreg a mae 'na fwyty arall sydd â pherchnogion newydd. Dyw'r busnes ddim yn gwneud llawer o elw ac addasiadau o ran staffio ac oriau agor yn hanfodol felly.

"Ni 'di cael tipyn o broblemau. Oherwydd mae'r lle yn fach ni'n gallu bod ar agor gyda dau o bobl. Mae'r busnes yn cael proffit eithaf bach oherwydd y sacrifice. Mae quality'r bwyd yr un peth."

Er bod rhai'n barod i fentro y teimlad yn gyffredinol fan hyn yn y Mwmbwls ac ar draws Cymru yw bod nifer o fusnesau'n cau. A'r diwydiant lletygarwch yn dal i wynebu cyfnod anodd. A phoeni mai gwaethygu y bydd pethe i nifer pan fydd cymorth cyfraddau busnes gan Lywodraeth CymrU yn lleihau fis nesa.

Un o'r rhesymau pam y bu'n rhaid i Rhian Davies roi'r gorau i redeg tafarn ger Castell-nedd fis dwetha.

"Gyda'r trydan, y biliau trydan, popeth, o'dd e'n ormod. Aeth y rhent lan, ac wedyn y cwrw. Aethon ni trwyddo'r Nadolig a Nadolig yn iawN ond dod i Ionawr a Chwefror, na, wedi cael digon. Bydd dyfodol tafarndai'n mynd lawr tamed bach na beth fi'n meddwl anyway."

Sut mae llwyddo mewn cyfnod heriol felly? Dyw hi ddim yn ddu i gyd.

"Mae busnesau wedi gorfod addasu o ran staffio beth maen nhw'n gwneud gydag adnoddau eraill hefyd. Wrth gwrs mae 'na broblemau o ran arian ac mae'n anodd iawn cael help a chymorth i fusnesau fel hyn.

"Ni wedi gweld un o'r cyfnodau mwyaf heriol am sawl blwyddyn erbyn hyn. Ni'n disgwyl bydd y dyfodol yn edrych yn well."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu gyda'r adnoddau a'r grym sydd ar gael i gefnogi busnesau yn ystod cyfnod anodd.

Gyda'r Pasg ar y gorwel bydd busnesau hen a newydd yn gobeithio am gyfnod prysur ac y bydd hynny'n ddigon, am nawr i gadw'u pen uwch y dŵr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.