Newyddion S4C

'Straen i bawb': Angen 'ailwampio'r gyfraith' ar famau benthyg

29/03/2024

'Straen i bawb': Angen 'ailwampio'r gyfraith' ar famau benthyg

Mae cyfreithiwr yn galw ar famau benthyg [surrogacy] a darpar rieni i ddeall yn well y rheolau cyfreithiol ynghylch y "llwybr cymhleth" i fod yn rhiant.

Daw'r alwad flwyddyn ers cais gan Gomisiwn y Gyfraith i ailwampio’r gyfraith ar famau benthyg.

Mae Angela Killa o Gyfreithwyr JCP yn galw ar ddarpar famau benthyg a rhieni i ddeall yn well y rheolau cyfreithiol ynghylch y llwybr i fod yn rhiant cyfreithiol.

Ar hyn o bryd, nid yw darpar rieni yn dod yn rhieni i’r plentyn o’i enedigaeth mewn rhai amgylchiadau.

Nod Comisiwn y Gyfraith yw cyflwyno newid i’r gyfraith fel y byddai ddarpar rieni ddim yn gorfod aros misoedd i gael gorchymyn rhieni, sy'n achosi anawsterau gweinyddol wrth gofrestru'r plentyn.

'Straen aruthrol'

Flwyddyn ar ôl yr awgrymiadau diwygio, mae cyfraddau mamau benthyg yn parhau i godi yn y DU - gan godi 350% dros y 12 mlynedd diwethaf.

Mae arbenigwyr cyfreithiol yn dweud ei bod yn fwy perthnasol nag erioed i ddeall goblygiadau llawn ymrwymo i gytundeb benthyg croth.

"Ar hyn o bryd, y broblem yw bod dim digon o gadarnhad yn y broses i allu rhoi hyder i bawb ar y ddou ochr o'r broses benthyg groth, i wybod bod e mynd i fynd heb broblemau," meddai Mrs Killa.

"A beth sy'n digwydd yn y llys yw, ar ôl i'r plentyn cael ei eni, mae rhaid i'r rhieni sydd eisiau edrych ar ôl y plentyn a codi'r plentyn, wneud cais i gael eu hadnabod fel y rhieni cyfreithlon.

"A beth sy'n digwydd yw mae hwnna ddim yn gallu digwydd am sbel ar hyn o'r bryd, nes ar ôl i'r blentyn gael ei eni, a mae hwnna'n achosi problemau o ran pwy sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y plentyn yn yr amser hynny. 

"Achos y fam 'se'n cael ei adnabod fel rhiant y plentyn. Ac os mae'n briod gyda dyn, fe bydd yn cael ei adnabod fel y tad.

"Ac felly, beth sy'n digwydd yw ma' hwnna'n rhoi sefyllfa cymhleth i'r pobl sy'n codi'r plentyn, achos does dim yr hawl gyda nhw mewn gwirionedd i wneud penderfyniadau fel mynd â'r plentyn i'r doctor, mynd â'r plentyn ar gwyliau a pethau felly. 

"Mae rhaid i nhw mynd nôl at y fam sydd wedi rhoi genedigaeth i'r plentyn, i allu gwneud y penderfyniadau 'na. Yn aml iawn mae'r fam sydd wedi tyfu'r plentyn yn rhoi'r caniatâd 'na beth bynnag.

"Ond mae fe'n cymhlethu pethau a ma fe'n golygu bod lot o straen ar bawb, yn aros i'r llys i wneud penderfyniad.

"Ar gyfer cyplau LGBTQ+, efallai bod heriau ychwanegol wedi’u hwynebu oherwydd gwahaniaethu neu ragfarn. Felly, mae empathi ac ystyriaeth yn hollbwysig wrth drafod y mater hwn.”

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymateb interim i’r adroddiad ym mis Tachwedd 2023, gyda Maria Caulfield AS yn dweud: “Er ein bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y gwaith hwn, nid yw amser seneddol yn caniatáu i’r newidiadau hyn gael eu symud ymlaen ar hyn o bryd.” 

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.