Chwe blynedd o garchar i ddyn o Abertawe am achosi marwolaeth dau yn eu harddegau
Mae dyn o Abertawe wedi’i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar ar ôl achosi marwolaeth dau berson yn eu harddegau yn 2022.
Plediodd Owain Hammett-George, 19 oed o Gellifedw, Abertawe yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Plediodd hefyd yn euog i un cyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Bu farw Ben Rogers a Kaitlyn Davies, 19 oed, yn y digwyddiad, a ddigwyddodd ar y B4436 yn Llandeilo Ferwallt ym mis Mai 2022.
Cafodd dynes 17 oed, Casey-Leigh Thomas, ei chludo i'r ysbyty hefyd gydag anafiadau difrifol, gan gynnwys anaf i'r ymennydd a gwddf wedi torri.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Deborah Hobrough: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig a welodd ddau berson ifanc yn colli eu bywydau, ac un arall wedi’i anafu’n ddifrifol.
“Hoffwn ddiolch i’r teulu am eu hurddas a’u hunanfodlonrwydd y maent wedi’i ddangos drwy gydol yr ymchwiliad.
“Rwy’n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos yn amwlg, y risgiau o yrru’n beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.”