Newyddion S4C

Chwifio'r Ddraig Goch ar adeilad cyngor sir yn dilyn cwynion

28/03/2024
Baner Y Ddraig Goch

Mae cyn-athro yn hawlio buddugoliaeth ar ôl i’r Ddraig Goch gael ei chodi ar ben un o adeiladau cyhoeddus amlycaf Sir Fynwy a gostwng baner Jac yr Undeb.

Mae anghydfod wedi bod rhwng Peter Williams a Neuadd y Sir yn Nhrefynwy ers mis Mehefin y llynedd ar ôl i faner Jac yr Undeb gael ei chodi ar ben yr adeilad, yn hytrach na baner Cymru.

Ond roedd y cyn-ddirprwy brifathro wedi cwyno ymhellach ar 1 Mawrth eleni pan sylweddolodd nad oedd yr adeilad sy’n eiddo i’r cyngor yn dilyn yr hyn a ddywedodd y cyngor wrtho oedd eu polisi o hedfan Y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi.

“Mae’n warthus na chafodd baner Cymru ei chwifio ar Ddydd Gŵyl Dewi,” meddai Mr Williams.

Ychwanegodd fod yr esgus a roddwyd am fethu â chwifio’r faner genedlaethol ar ddiwrnod y nawddsant oherwydd storm genllysg a pholyn baner gwan.

Yn ôl Mr Williams, roedd y cyngor wedi honni bod yn rhaid chwifio Jac yr Undeb uwchben y Ddraig Goch a bod natur y polyn yn golygu nad oedd hynny’n bosibl.

Fe anfonodd staff y Neuadd Sirol gopi o'r protocol yr oeddent yn dilyn mewn ebost at Mr Williams, o'r enw UK Government: Flying Flags; A plain English Guide.

'Gwrth-Gymraeg'

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi dweud wrth y cyngor fod y protocol yn berthnasol i Loegr, nid Cymru.

“Dydw i ddim wedi cael unrhyw ymateb ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am weithredu'r canllawiau Saesneg yma yng Nghymru,” meddai Mr Williams, a symudodd gyda’i wraig i Sir Fynwy ym mis Tachwedd 2020 ar ôl dysgu yn Lloegr am dros 30 mlynedd.

“Mae Sir Fynwy hanner ffordd rhwng ein merch yn Sir Gaerwrangon a'n mab yng Nghaerdydd ac yn ardal ddymunol i fyw ynddi, ac roedden ni eisiau dod yn ôl i Gymru.

Mae baner Cymru bellach wedi bod yn chwifio yn Neuadd Siriol ers i Mr Williams wneud ei gŵyn ddiweddaraf a chysylltu â chynghorydd Llafur Mynwy Catherine Fookes ac Arweinydd y Cyngor Mary Ann Brocklesby.

Ond dywedodd ei fod yn bryderus bod chwifio baner yr Undeb yn symptomatig o ddiffyg parch at ddiwylliant Cymraeg yr ardal.

“Fe symudon ni yn ystod Covid ond wrth i bethau fynd yn ôl i normal dechreuais sylweddoli bod Jac yr Undeb yn yr adeilad cyhoeddus ac y dylai fod â baner Cymru. Synhwyrais fod yna deimlad gwrth-Gymraeg yma ym Mynwy, fel llythyrau yn y papurau newydd yn cwyno am y Gymraeg neu ddwyieithrwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Ar ôl adborth a sylwadau gan y gymuned am chwifio baner Cymru, rydym yn falch o wneud hynny am y misoedd nesaf yn Neuadd y Sir. Byddwn yn adolygu opsiynau i ystyried gosod baneri a threfniadau yn y dyfodol.”

Llun: Andrew Bowden / LDRS

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.