Newyddion S4C

Gohirio penderfyniad terfynol ar symud gwasanaethau ambiwlans awyr y gogledd

28/03/2024

Gohirio penderfyniad terfynol ar symud gwasanaethau ambiwlans awyr y gogledd

Mae penderfyniad terfynol ynglŷn ag ad-drefnu gwasanaethau ambiwlans awyr yng ngogledd Cymru wedi cael ei ohirio am fis arall.

Roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Brys Ambiwlans Awyr fod i gyfarfod prynhawn Iau i wneud penderfyniad terfynol ar gau meysydd ambiwlans awyr Caernarfon a’r Trallwng.

Ond fe benderfynwyd yn y cyfarfod i ohirio'r penderfyniad tan 23 Ebrill.

Mae'n dilyn adolygiad gan brif gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sydd â’r nod o wella’r gwasanaeth.

Mae’r adolygiad dadleuol yn argymell cau canolfannau ambiwlans awyr Caernarfon a’r Trallwng a’u huno mewn lleoliad newydd yn ardal Y Rhuddlan yn Sir Ddinbych.

Yn ôl y Comisiynydd, Stephen Harrhy, byddai symud yr hofrenyddion i'r safle newydd yn golygu y byddai’r gwasanaeth yn gallu ymateb i 139 o alwadau ychwanegol bob blwyddyn.

Ond mae rhai yn poeni y bydd symud y gwasanaeth yn ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau mewn ardaloedd gwledig.

Un sydd wedi elwa o’r gwasanaeth yw Glyn Roberts a’i deulu, sy’n ffermio ym Metws Y Coed.

Roedd yn rhaid i’r ambiwlans awyr gludo ei ferch i’r ysbyty ar ôl i feic quad droi drosodd.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Roberts: “Fe gafodd y ferch ddamwain efo motor beic pedair olwyn ac mi oedd hi wedi disgyn oddi ar y beic a chracio’i phenglog, ac roedd hi’n hollol anymwybodol.

“Roedd yn rhaid ffonio am gymorth, a mi ddoth yr ambiwlans awyr ato ni mewn ‘chydig iawn o amser o Gaernarfon.

“Yn naturiol, mae ambiwlans awyr yn dod lawer iawn cyflymach nag ambiwlans, ond dwi’n gwybod am enghreifftiau eraill yn yr ardal yma - un fferm eithaf anghysbell, lle'r roedd y ffermwr wedi cael trafferthion iechyd efo’i galon, ac mi oedd yr ambiwlans awyr yma mewn 'chydig iawn o amser. 

"Mae 'na gwestiwn mawr os fasa’r ambiwlans ddim yn bodoli ar y pryd hwnnw, tybed fysai’r cyfaill hwnnw efo ni heddiw."

Dywedodd Mr Roberts bod cael gwasanaethau brys o'r fath yn "hanfodol" yng nghefn gwlad.

“Ac mae’n bwysig sylweddoli, mae ‘na gymaint o sôn heddiw am yr awr aur, sef yr awr gyntaf, ac mae’n hanfodol yn y cyd-destun hwnnw ein bod ni’n cael y gwasanaethau yma yng nghefn gwlad mewn llefydd anghysbell.

“Mae’r diwydiant amaeth yn un o'r rhai mwyaf peryglus. Os yw Caernarfon yn cau ac yn mynd mwy i’r canol yng ngogledd Cymru, ydi’r ambiwlans awyr yn medru cyrraedd y gorllewin a’r dwyrain mor gyflym? 

“Mae’n dipyn o waith mynd o lefydd fel Dyffryn Clwyd lawr i Ben Llyn er enghraifft, ac mewn ffordd mae’n rhaid i bawb sylweddoli, mae’n hawdd edrych ar ffigyrau ac ystadegau, ond y ty ôl i bob damwain mae ‘na berson ac mae bywyd y claf yna yn y fantol - a dyna sy’n bwysig.”

‘Cam yn ôl’

Dywedodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor eu bod wedi “siomi” gan yr argymhelliad a fyddai’n “peryglu” diogelwch pobl ledled y gogledd orllewin a’r canolbarth.

“Mae'r penderfyniad hwn yn gam yn ôl o ran darparu gofal meddygol ar frys yn ein cymunedau gwledig – ac fe ddaw yn sgil data amheus a phroses ymgynghori ddiffygiol.

“Roedd gan Lywodraeth Lafur Cymru'r gallu, yn ogystal â’r cyfle, i ddylanwadu ac ymyrryd yn y broses hon ond dewisodd ddweud dim byd."

Ychwanegodd y gwleidyddion nad oedd yr adroddiad yn ystyried “pryderon go iawn” eu hetholwyr yn Nwyfor Meirionnydd, a bod methiant ar ran y llywodraeth wrth sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn darparu gofal “cyfartal” i bawb yng Nghymru.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am ymateb.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.