Newyddion S4C

Pêl-droed: Cyhoeddi carfan merched Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Euro 2025

28/03/2024
Jess Fishlock

Mae carfan tîm pêl-droed merched Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Euro 2025 wedi cael ei chyhoeddi. 

Fe fydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Croatia ar y Cae Ras yn Wrecsam ar 5 Ebrill cyn chwarae Kosovo oddi cartref ar 9 Ebrill.

Fe fydd Jess Fishlock gam yn agosach at wneud hanes, drwy gael y cyfle i ddod y chwaraewr cyntaf i chwarae 150 o gemau dros Gymru os y bydd hi'n chwarae yn y ddwy gêm.

Dyma fydd ymgyrch gyntaf y rheolwr newydd Rhian Wilkinson ers iddi gymryd yr awenau gan Gemma Grainger ym mis Chwefror.

Mae Fishlock ymysg 26 o enwau sydd wedi eu cynnwys ar gyfer y gemau yn erbyn Croatia a Kosovo ar 5 a 9 Ebrill. 

Sophie Ingle fydd yn parhau fel capten y tîm, tra bod Angharad James a Ceri Holland ymysg yr enwau sydd wedi eu cynnwys yn y garfan. 

Mae chwaraewyr academi Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Soffia Kelly, Elena Cole a Mared Griffiths, i gyd wedi eu cynnwys yn rhan o'r garfan.

Ni fydd y gôl-geidwad Safia Middleton-Patel na'r chwaraewr canol cae Carrie Jones ar gael, a hynny oherwydd anafiadau.

Cymru fydd y tîm uchaf o ran rhestr detholion y byd yn y grŵp, sydd hefyd yn cynnwys Wcráin.

Carfan Cymru: Olivia Clark, Laura O’Sullivan, Soffia Kelly, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Mayzee Davies, Lily Woodham, Ella Powell, Sophie Ingle, Alice Griffiths, Angharad James, Elena Cole, Lois Joel, Rachel Rowe, Ffion Morgan, Jess Fishlock, Ceri Holland, Ellen Jones, Elise Hughes, Mary McAteer, Kayleigh Barton, Mared Griffiths, Ania Denham.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.