Newyddion S4C

Dod o hyd i ddau gorff wedi i bont Baltimore ddymchwel

28/03/2024
Pont

Mae dau o gyrff wedi cael eu darganfod o gerbyd coch a oedd o dan y dŵr lle y gwnaeth pont Baltimore ddymchwel.

Roedd y gwasanaethau brys yn chwilio am bobl yn y dŵr yn Baltimore, yn nhalaith Maryland ar ôl i bont Francis Scott Key gael ei tharo gan long nwyddau tua 01:30 fore Mawrth.

Roedd wyth o weithwyr adeiladu yn gweithio ar y bont pan y gwnaeth y llong ei tharo.

Fe gafodd dau eu hachub ar y diwrnod, ond mae'r chwilio yn parhau am y pedwar arall, a'r gred yw eu bod nhw wedi marw.

Mae pedwar o'r chwe pherson oedd ar goll wedi cael eu henwi hyd yma. 

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, dywedodd Heddlu Talaith Maryland mai Alejandro Hernandez Fuentes, 35, a Dorlian Ronial Castillo Cabrera, 26, oedd y ddau weithiwr a gafodd eu darganfod yn y cerbyd coch.

Y gred yw mai Miguel Luna a Maynor Suazo Sandoval ydy dau o'r gweithwyr eraill sydd wedi marw.

Fe gafodd un person a oedd yn yr ysbyty ar ôl cael ei dynnu o'r dŵr ei ryddhau ddydd Mercher yn ôl swyddogion. 

Mae swyddogion wedi addo dod o hyd i'r cyrff ar gyfer eu teuluoedd.

Dywedodd llywodraethwr Maryland Wes Moore: "Fy addewid iddyn nhw yw hyn: byddaf yn neilltuo pob un adnodd i sicrhau eich bod yn gallu cael atebion."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.