Newyddion S4C

Cynllun tanwydd i greu 150 o swyddi ym Mhort Talbot

27/03/2024
Safle tanwydd Port Talbot

Mae cynllun i gynhyrchu tanwydd awyrennau allai greu 150 o swyddi ym Mhort Talbot wedi cael sêl bendith cynghorwyr y sir.

Bydd y cynllun sydd wedi ei alw'n "Project Dragon" dan arweiniad cwmni o'r Unol Daleithiau Lanza Tech, a bydd yn cael ei adeiladu ar hen safle diwydiannol Crown Wharf yn y dref.

Y  gobaith yw cynhyrchu hyd at 100 miliwn litr o danwydd cynaladwy ar gyfer awyrennau bob blwyddyn, drwy droi ethanol yn danwydd - y cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae'r cwmni wedi derbyn £25 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer y datblygiad fel rhan o'r ymgyrch i gyrraedd y targed "net carbon zero" erbyn 2050.

Mae nhw'n disgwyl y bydd 85 o swyddi'n cael eu creu ar y safle, gyda mwy yn cael eu creu'n lleol fel rhan o'r  cadwyn cyflenwi.

Daw ar adeg pan mae pryder yn yr ardal am ddyfodol 3,000 o swyddi yng ngwaith dur Port Talbot. 

Penderfynodd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn unfrydol o blaid y cais cynllunio.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Lanza UK, Jim Woodger:"Rydym ni wrth ein boddau bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi caniatau ein cais cynllunio.

“Mae'r garreg filltir yma'n nodi cam pwysig i Project Dragon, a mae'n dangos y potensial i Bort Talbot symud i ddiwydiannau gwyrdd glân, sy'n adeiladu ar dreftadaeth yr ardal, tra'n cynnig swyddi a budd ehangach i'r gymuned leol."

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau cyn diwedd y flwyddyn, gyda'r gobaith y bydd cynhyrchu'n dechrau yn 2026.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.