Aelod Seneddol Môn 'ddim wedi torri rheolau' yn ystod y pandemig
Mae cwynion bod Aelod Seneddol Ynys Môn wedi torri rheolau wrth fynd i "barti" yn Nhŷ'r Cyffredin adeg Covid wedi eu gwrthod gan y Comisiwn Safonau Seneddol.
Roedd Virginia Crosbie yn un o bedwar Aelod Seneddol Ceidwadol aeth i'r digwyddiad ar Rhagfyr 8, 2020.
Ond mae'r Comisiynydd Daniel Greenberg wedi penderfynu na wnaethon nhw "ddrwg difrifol i enw da" Tŷ'r Cyffredin ac Aelodau Seneddol yn gyffredinol.
Roedd y digwyddiad wedi ei drefnu gan fudiad Women2Win, rhwydwaith o ferched sy'n Aelodau Seneddol Ceidwadol.
Yn ei adroddiad, dywedodd y Comisiynydd bod "dim mwy na dwy botel" o win a bwyd ar gael yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd Mr Greenberg y byddai cyfarfod o'r fath i drafod busnes wedi bod yn gwbl dderbyniol, ond byddai digwyddiad "cwbl gymdeithasol" wedi bod yn groes i'r rheolau ar y pryd.
"Ar sail y dystiolaeth, rwy'n fodlon bod hi'n debygol ar y cyfan bod y digwyddiad yn cynnwys elfennau cymdeithasol a busnes,"meddai.
"Does gen i ddim tystiolaeth i gyfiawnhau gwneud penderfyniad bod y cod ymddygiad wedi ei dorri."