
Dau artist sy'n ceisio hybu Cymreictod a dysgu’r iaith

“Dwi’n mwynhau darganfod geiriau newydd, a chysylltu gyda phobl eraill,” meddai’r artist Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Sketchy Welsh’.
Mae’r artist, sydd wedi dychwelyd i Gymru i fyw, wedi penderfynu dysgu Cymraeg, wedi iddo symud i Loegr yn ifanc “a cholli cyfle i ddysgu’r iaith”.
Mae Joshua yn gobeithio y bydd dysgu’r iaith yn cyd-fynd gyda’i nôd o greu celf sy’n cynrychioli Cymreictod.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ac yn ôl Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol mae cynnydd yn niferoedd y dysgwyr flwyddyn ar flwyddyn ers 2017-2018.
Mae Joshua wedi bod yn dysgu'r iaith Gymraeg ers blwyddyn a hanner bellach ac mae’n dangos yr hyn mae wedi ei ddysgu drwy ei gelf.
Yn ôl Joshua mae’n “trio darlunio’r iaith Gymraeg a dysgu’r iaith.”
“Symudon ni pan o'n i'n eithaf ifanc i ganolbarth Lloegr, felly wnes i wedi colli'r siawns i ddysgu Cymraeg pryd oeddwn i’n tyfu lan,” meddai.
Mae Joshua wedi dechrau prosiect o’r enw ‘Sketchy Welsh’, lle mae’n darlunio lluniau i gyd fynd â brawddeg neu air Cymraeg er mwyn gwneud hi’n haws i ddysgu ac i’r geiriau aros yn y cof.
“Mae’n rili neis i edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf i weld popeth dwi’n gwneud. Mae gen i awydd i barhau creu pethau fel hynna.
“Dwi’n joio darganfod geiriau newydd pob tro.”

Dysgu gyda eraill
Ynghyd â’r celf mae Joshua wedi ysgrifennu llyfr o’r enw ‘31 Days to Hoffi Coffi’ sy’n defnyddio’r Saesneg i esbonio’r iaith Gymraeg.
“Ar ôl cwpwl o weithiau o ddarllen, does dim angen defnyddio Saesneg o gwbl.”

Dywedodd Joshua fod y “gymuned Gymraeg a dysgu Cymraeg” wedi bod yn hynod o groesawgar.
“Mae fy mhlant yn dysgu, mae fy ngwraig yn dysgu, mae fy nheulu a fy mrawd wedi dechrau dysgu nawr.
“Os wyt ti’n dysgu mae’n bwysig i rannu’r dysgu Cymraeg gyda rhywbeth ti’n caru,” ychwanegodd.
Artist arall sydd â’r un angerdd i ddysgu’r iaith yw Dan Reeves.

I lawer mae Dan o Lanisien yn cael ei adnabod fel y Revealist, ac y mae yntau gyda’r un nod o ddefnyddio celf i hybu Cymreictod.
Mae’n cael ei adnabod fwyaf am ei furluniau o’r ‘Dragon in a Bally’ sydd i’w weld ar strydoedd yn Y Bae a Cathays yn y Brifddinas a hefyd yn Wrecsam.
“Pryd wnes i bostio hwn ar-lein, roedd llawer o bobl yn uniaethu eu hunain gyda fe, ond doeddwn i ddim yn gallu rhoi ystyr i'r hyn yr oedd yn ei olygu.”
I gyd fynd gyda’r celf fe wnaeth ffrind i Dan ysgrifennu cerdd sydd yn “ddisgrifiad perffaith o beth yw bod yn Gymraeg", yn ôl Dan.
“Dyma’r symbol, mae’n symbol i’r ‘Welsh Underground’.”

Angerdd at yr iaith
Mae angerdd Dan at yr iaith Gymraeg wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd, wedi iddo gyfaddef ei fod yn meddwl bod siarad yr iaith “ddim yn cool” tra yn yr ysgol.
“Doeddwn i ddim yn sant yn yr ysgol, fi yw'r cyntaf i ddweud hynny.
“Pan o’n i yn yr ysgol roedd fy mhresenoldeb ac ymddygiad yn wael, ac yn y Gymraeg mi oeddwn i’n hynod o wael.”
Ond erbyn hyn, breuddwyd Dan yw dysgu’r iaith yn rhugl a dechrau busnes Gymraeg.
“Mae’n rhyfedd sut mae bywyd yn gweithio, mae methu mewn rhywbeth yn ysbrydoliaeth i wella.”
Mae Dan wedi bod yn cynnal sesiynau dysgu Cymraeg yng Nghaerdydd i bobl o bob lefel er mwyn creu gofod agored a chymunedol i bawb sydd eisiau defnyddio’r iaith.
