Newyddion S4C

Dros 900 o bobl yn gwrthwynebu cau canolfan ailgylchu yng Ngheredigion

27/03/2024
canolfan ailgylchu llanarth

Mae dros 900 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cynllun i gau canolfan ailgylchu yng Ngheredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried cau un o'r bedair canolfan yn y sir fel rhan o ymdrech i arbed arian.

Fel rhan o'u cyllideb ar gyfer 2024/5, sy'n cynnwys codiad o 11.1% yn lefel y treth cyngor, mae'r awdurdod yn dweud y byddai cau un ganolfan ailgylchu yn arbed £100,000.

Mae'r canolfannau presennol yn Aberystwyth, Llanbed, Llanarth, ac Aberteifi.

Dyw'r cyngor ddim wedi dweud pa safle sydd dan fygythiad, ond mae trigolion ardal Llanarth yn pryderu mai eu canolfan nhw sydd fwyaf  tebygol o gau.

Mae nhw wedi lansio deiseb yn gwrthwynebu'r syniad, ac hyd yma mae dros 900 o bobl wedi ei arwyddo.

Dywedodd  Suzanne Charlesworth, lansiodd y ddeiseb:"Does dim modd gorbwysleisio pwysigrwydd canolfannau ailgylchu mewn cymunedau gwledig.

"Yn Llanarth, dim ond unwaith y mis mae'r cyngor fel arfer yn casglu gwastraff cartref. Mae hyn yn golygu bod ein canolfan ailgylchu hyd yn oed yn bwysicach, am mai dyna'r unig ddewis i waredu gwastraff yn ein ardal. Mae'r dewis arall agosaf  yn golygu taith car 40 munud, sydd ddim yn ymarferol i lawer o drigolion."

Roedd y cynllun i gau canolfan ailgylchu yn un o 70 o fesurau i arbed arian yng nghyllideb  ddrafft y cyngor, gyda chynghorwyr yn disgrifio'r dewisiadau o'u blaenau fel bod yn "anhygoel o anodd ac annymunol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.