Newyddion S4C

Cyflwynydd S4C am 'chwalu'r tabŵ' o fod yn rhiant ifanc mewn rhaglen ddogfen newydd

28/03/2024
Tanwen ac Ollie

Mae un o gyflwynwyr tywydd S4C yn gobeithio “chwalu’r tabŵ” sy’n gysylltiedig â bod yn rhiant ifanc, gan ddweud nad yw dod yn fam yn golygu diwedd ar ei gyrfa. 

Bydd y gyfres, Tanwen & Ollie, yn dilyn y cyflwynydd tywydd Tanwen Cray, 23, yn ystod yr wythnosau cyn genedigaeth ei merch, Neli Meillionen Awen Cooper ddiwedd mis Ionawr, a hynny ochr yn ochr gyda’i phartner Ollie Cooper, sef pêl-droediwr clwb pêl-droed Abertawe. 

Wedi iddi ddelio â  beirniadaeth am feichiogi’n ifanc, mae’r cyflwynydd eisiau dangos ei phrofiad “onest” o ddod yn fam, gan ddweud nad yw’n golygu bod rhaid iddi roi’r gorau i’w gyrfa.

“Mae lot o bobl eisiau rhoi eu barn nhw ar ddisgwyl babi a bod yn fam ifanc. Mae disgwyliad mewn cymdeithas bod rhywun yn gweithio, gweithio, gweithio ac wedyn yn cael plant. 

“Ac i fi, roedd e’n rywbeth oedd yn y dyfodol – oni ddim yn gallu gweld pryd fyswn i’n cael plant. Oherwydd hyn, ar y dechrau, oni’n teimlo fel ‘that’s the end of my career’ – ond dyw e ddim yn wir o gwbl! 

“Falle bod e’n golygu bach o brêc, ond dyw e sicr ddim yn meddwl bod dim gyrfa yn mynd i fod ‘da fi,” meddai Tanwen Cray. 

Teulu

Yn wyneb adnabyddus arall i wylwyr S4C, bydd mam Tanwen, Angharad Mair, cyflwynydd rhaglen Heno, hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres. 

Er gwaetha ei phrofiad hir ym myd teledu, roedd rhaid iddi hi arfer â “ffordd newydd” o fod ar gamera yn ystod y gyfres. 

“Ar adegau, pob tro oni’n gweld camera – achos fi ‘di arfer cyflwyno – roedd tueddiad gyda fi i edrych ar y camera ac eisiau esbonio popeth! 

"Oni’n gorfod meddwl mewn ffordd wahanol am y camera felly roedd hynny’n ddifyr,” meddai Angharad Mair. 

Ac er bod ffilmio’r rhaglen ddogfen yn gyfnod arbennig i’r teulu cyfan – gan gynnwys tad Tanwen a’r dyn camera Joni Cray a wnaeth ffilmio’r gyfres – roedd Angharad Mair hefyd yn wynebau rhai o heriau hefyd, meddai. 

“Un peth fyswn i byth wedi rhagweld yw pythefnos ar ôl i Neli gyrraedd y byd, ges i lawdriniaeth fawr ar y stumog. 

“Felly ers hynny, mae e wedi bod yn eithaf anodd i fi bod yr help o ni’n bwriadu rhoi yn y cyfnod cynnar yna ddim yn gallu digwydd...Ond roedd meddwl am gael dod mas o’r ysbyty a dechrau rhoi cwtshys i Neli yn cadw fi fynd!”

Mae’r teulu i gyd yn falch o’r profiad “sbesial” a gafwyd wrth ffilmio’r gyfres ac fe fydd e’n “rywbeth arbennig iawn i gael edrych yn ôl arno a chofio sut beth oedd yr wythnosau hynny cyn i Neli gyrraedd y byd,” ychwanegodd Ollie Cooper. 

Bydd pennod gyntaf Tanwen & Ollie ar gael ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Hansh, S4C Clic, BBC iPlayer ac YouTube ddydd Iau, ac fe fydd yn cael ei ddarlledu ar raglen teledu S4C yn ystod yr haf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.