Newyddion S4C

Fferyllfeydd Cymru yn wynebu 'argyfwng'

Newyddion S4C

Fferyllfeydd Cymru yn wynebu 'argyfwng'

Mae fferyllfeydd Cymru yn wynebu “argyfwng” yn ôl un fferyllydd blaenllaw sydd â bron i hanner canrif o brofiad yn y maes.

Ers 2020 mae 26 o fferyllfeydd wedi cau yng Nghymru.

 Mae Richard Evans wedi galw am ragor o gyllid gan Lywodraeth Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd gwaith fferyllfeydd yn tynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cynnal trafodaethau cyson gyda fferyllfeydd i’w cefnogi.

Mae Richard Evans wedi bod yn fferyllydd yng ngorllewin Cymru ers 48 mlynedd, ac yn Aelod o’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. 

Image
Richard Evans wrth ei waith
Mae Richard Evans yn rhybuddio bod sefyllfa fferyllfeydd yn 'argyfyngus'

“Mae pethau wedi altro dros y blynyddoedd. Ar ddechrau 'ngyrfa dim ond rhoi presgripsiwn mas oedden ni, ond nawr mae’r gwaith wedi ehangu, ry' ni’n gallu darparu triniaeth ddau ddeg saith o anhwylderau gwahanol," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“Mae’n beth da ein bod ni’n neud ein gwaith ni, ond ma’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny drwy roi mwy o arian i mewn i’r gwasanaeth.

“Mae ‘na gefnogaeth, ond mae eisiau iddyn nhw ail edrych ar faint o arian mae nhw’n gallu roi yn y gwasanaeth er mwyn cynnal y fferyllfeydd.

“Mea’n bwysig, os ydyn ni’n cymryd y baich, ein bod ni’n cael ein cefnogi hefyd.”

'Helpu'r gwasanaeth iechyd'

Yn ogystal â'r 26 o fferyllfeydd sydd wedi cau yng Nghymru ers 2020, mae nifer hefyd wedi lleihau eu horiau agor.

Yn ôl arolwg gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru mae 83% o berchnogion fferyllfeydd wedi cael trafferth darparu gwasanaethau clinigol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“So ni moyn colli rhagor o fferyllfeydd, ni moyn bod yn y gymuned er mwyn bod pobl yn gallu defnyddio nhw, ac i helpu’r gwasanaeth iechyd," meddai Richard Evans.

“Mae prisiau’r cyffuriau wedi mynd lan yn ddifrifol, ma’r gwaith yn mynd yn fwy ac ma’ gan y staff fwy o gyfrifoldeb.

“Ma’ rhaid edrych ar dariff cyffuriau, dyw’r taliadau heb gadw lan a dyw hwnnw ddim yn gynaliadwy.”

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod “cyfraniad sylweddol” fferyllfeydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles, bod y llywodraeth mewn trafodaethau cyson er mwyn gallu cefnogi'r sector.

“Mae pwysau ar y fferyllfeydd amser yma’r flwyddyn am yr run rhesymau a’r gwasanaeth iechyd," meddai.

“Mae cyfraniad fferyllfeydd yn sylweddol iawn. Y llynedd yn 2024 nath ryw 60,000 o bobl fynd  i’r fferyllfeydd oherwydd clefydau cyffredin byddai fel arall wedi mynd at feddyg teulu, felly ma’ ganddyn nhw rôl bwysig iawn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.