Yr hanesydd Geraint H Jenkins wedi marw yn 78 oed
Mae’r academydd Geraint H. Jenkins oedd yn awdur degau o lyfrau ar hanes Cymru wedi marw yn 78 oed.
Roedd wedi cyhoeddi dros 30 o lyfrau a thros 100 o erthyglau ar amrywiol bynciau gan gynnwys hanes yr iaith Gymraeg, Iolo Morganwg, anghydffurfiaeth yng Nghymru a hanes pêl-droed a’i hoff glwb, Abertawe.
Ef hefyd oedd golygydd y gyfres Cof Cenedl: Ysgrifau ar Hanes Cymru.
Roedd yn hanu o Benparcau, Aberystwyth cyn mynd i Brifysgol Cymru, Abertawe, gan astudio doethuriaeth yno dan arweiniad yr Athro Glanmor Williams.
Bu'n Athro a phennaeth Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth dros gyfnod o 25 mlynedd gan gynnwys dysgu y Brenin presennol Charles III, ac roedd hynny yn “brofiad syber i weriniaethwr pybyr”.
Cafodd ei benodi'n gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993.
O 1993 hyd 2007 bu’n Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd gan yr Academi Brydeinig yn 2002.
Ymddeolodd ym mis Medi 2008 ac fe'i gwnaed yn Athro Emeritws Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru.
'Treiddgar'
Wrth roi teyrnged ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd yr Athro Paul O'Leary, fu'n gyd-weithiwr iddo: "Roedd cyfraniad Geraint yn academaidd yn aruthrol. Roedd ei gyfraniadau yn wych ac yn dreiddgar ac yn ddisglair."
Wrth ganmol ei allu fel cyfathrebwr, ychwanegodd: "Roedd Geraint yn gweld hi'n bwysig bod o'n cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg - roedd yn meddwl bod hi'n bwysig bod y Gymraeg yn gallu trafod hanes ein gwlad ein hunain."
Wrth roi teyrnged iddi dywedodd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ei fod yn "hanesydd praff ac un o ysgolheigion blaenaf ei genhedlaeth".
"Gwnaeth gyfraniad aruthrol i ymchwil a dysg yng Nghymru, gan lywio Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru rhwng 1993 a 2008," medden nhw.
"Roedd yn awdur toreithiog ac yn gymwynaswr mawr i’w genedl ac ysbrydolodd genedlaethau o ymchwilwyr.
"Diolchwn am ei waith a’i gwmni a danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei weddw Ann ac at ei ferched a’u teuluoedd."