‘Lwcus dros ben’: Mici Plwm ar awyren Lockerbie oriau cyn iddi ffrwydro
"Ro’dd rhywun yn ein gwarchod ni’r diwrnod hwnnw."
Roedd yr actor a'r digrifwr Mici Plwm ar daith awyren PanAm 103 ychydig oriau cyn iddi ffrwydro dros dref Lockerbie yn 1988.
Wrth sôn yn gyhoeddus am y profiad am y tro cyntaf, disgrifiodd sut y teithiodd ar yr awyren gyda'i ffrind a'i gyd-actor John Pierce Jones o Frankfurt i Heathrow.
Ffrwydrodd yr awyren yn ddiweddarach dros dref Lockerbie yn yr Alban, gan ladd 270 o bobl.
Buo'r ddau Gymro yn “frawychus o agos” at y digwyddiad, meddai Mici Plwm wrth Newyddion S4C, ac roedd rhai o'u cyd-deithwyr ar y daith flaenorol ymysg y rhai fu farw.
Roedd Mici Plwm a John Pierce Jones ar eu ffordd yn ôl adref ar gyfer y Nadolig, wedi iddyn nhw fod yn teithio yn yr India gyda’i gilydd. Roedden nhw wedi hedfan o Delhi i Frankfurt yn gyntaf, cyn mynd ar y Pan Am 103 o Frankfurt i Lundain.
Roedd y ddau eisiau cyrraedd adref mewn pryd cyn y Nadolig, a fe gafon nhw afael ar docynnau ar gyfer taith y Pan Am 103 i Lundain wedi sawl awr o aros ym maes awyr Frankfurt.
“Yn Frankfurt, ar y board, welon ni bod flight y Pan Am yn mynd i Heathrow, a meddwl, o waw, ma’ ‘na le ar honna... ac wrth gwrs, neidio amdanyn nhw," meddai.
Roedd y maes awyr yn Frankfurt yn “llawn bwrlwm”, medd Mici, gyda phawb yn ysu i gyrraedd adref ar gyfer y Nadolig, fel oedd y ddau ohonyn nhw hefyd.
Mae’n cofio iddo sgwrsio â nifer o’i gyd-deithwyr, oedd yn aros ar y Pan Am 103 i fynd i’r UDA, ac mae’n dal i feddwl am y rhai oedd o’i amgylch cyn camu oddi ar yr awyren yn Llundain.
“Ro’n ni’n siarad â nhw, fel ti’n gwneud, y bobl wrth dy ymyl, tu ôl i ti," meddai.
"Americanwyr oedd y rhan fwyaf, teithio adra at eu teuluoedd oedden nhw. Pedwar diwrnod tan ‘Dolig oedd hi”.
'Mor agos'
Efrog Newydd oedd pen y daith i’r Pan Am 103 i fod, ond ni chyrhaeddodd yr awyren.
Roedd y ddau Gymro wedi cael trên o Heathrow yn ôl i Gaerdydd. Roedd sïbrydion ar y trên, gofiai Mici, bod digwyddiad erchyll wedi bod.
“Roedd andros o si... yn chwyrlïo erbyn cyrraedd Caerdydd. Tua 7 o’r gloch y nos oedd hi”.
Mae'n cofio pan sylweddolodd y ddau mai’r Pan Am 103 oedd i lawr. “Dyna’r aeroplane oeddan ni arni.”
“Mor agos oeddan ni at y digwyddiad,” meddai.
Mae Mici’n cwestiynu sut cafodd y bom ei roi ar yr awyren yn y lle cyntaf. Mae’n amau mai yn Heathrow y digwyddodd hynny.
Neu, os fuodd y bom yno ar hyd y daith gyfan, meddai, mae Mici’n sicr “rhaid bod ‘na rhywun â’i lygaid, rhywle, yn gwarchod John a finna”.
Roedd gweld lluniau ar y newyddion o’r awyren ar lawr yn “dorcalonnus”.
“Fedra’ i ddim ei gymharu ag unrhyw beth arall," meddai.
“Erchyll o syniad,” medd Mici, fod “cyn gymaint o bobl wedi eu lladd mewn eiliad. Terrorist activity sy’ ‘di lladd nhw i gyd."
Dyma’r digwyddiad terfysgol mwyaf difrifol yn hanes y Deyrnas Unedig. hyd heddiw.
Cafodd Abdelbaset al-Megrahi ei garcharu am achosi'r ffrwydrad ar Ragfyr 21, 1988 yn 2001 cyn marw degawd yn ddiweddarach, a mae mae dyn arall, Abu Agila Masud, mewn carchar yn yr UDA am greu'r bom.
“Dal eto heb ei ddatrys” yw cred Mici, wrth i ddigwyddiad Lockerbie barhau i godi cwestiynau am bwy oedd tu ôl i’r ffrwydrad o bryd i’w gilydd.