Newyddion S4C

'Seren': Gwobr i Gymraes saith oed wnaeth helpu ei mam yn ystod ffit epileptig

Aisha Cox a'i theulu

Mae merch saith oed o Gymru wedi ennill gwobr genedlaethol am helpu ei mam  tra roedd hi'n dioddef ffit epileptig.

Pan gafodd Lucy Cox ffit yn ei chartref yn Y Trallwng, ei merch saith oed, Aisha oedd yr unig berson arall yn y tŷ.

Mae epilepsi yn gyflwr sydd yn effeithio ar un allan o 100 o bobl yn y DU ac mae'n gallu achosi pobl i gael ffitiau.

Cafodd Aisha ei dysgu beth i wneud pan oedd ei mam yn cael ffit, gan gynnwys gofyn i'r teclyn clyfar Alexa i alw ei thad.

Ond roedd ei thad wedi gadael  ei ffôn symudol yn y tŷ tra roedd wedi mynd allan i chwarae pêl-droed.

Image
Aisha Cox
Aisha Cox.

"Roeddwn i yn y gegin yn coginio swper pan ddechreuais i gael ffit allan o nunlle," meddai mam Aisha, Lucy.

"Ymateb gyntaf Aisha oedd rhoi clustog dan fy mhen ar y llawr caled. Roedd hi wedi diffodd yr hob nwy a'r popty cyn ceisio ffonio ei thad.

"Gadawodd ei ffôn yn y tŷ, ond yn ffodus roedd Aisha wedi meddwl yn glyfar a chyflym a dechrau chwilio trwy ei ffôn a dod o hyd i 'dad', sef taid Aisha.

Ychwanegodd Lucy: "Roedd hi wedi rhoi galwad iddo a daeth adref a rhoi cymorth i Aisha a finnau.

"Mae Aisha yn arwres go iawn, a'i meddwl cyflym hi wnaeth olygu fy mod i'n cael y cymorth oeddwn i angen."

'Dewr'

Enillodd Aisha gwobr Epilepsy Star gan yr elusen Brydeinig Epilepsy Action.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi i'r "arwyr sydd heb dderbyn clod ac yn dathlu'r gwahaniaeth y maen nhw wedi'i wneud."

Dywedodd prif weithredwr dros dro yr elusen, Rebekah Smith bod Aisha yn llwyr haeddu'r wobr.

"Fe wnaethom benderfynu rhoi gwobr Epilepsy Star 2024 i Aisha am ei hymateb cyflym a dewr pan oedd ei mam ei hangen mwyaf.

"Dangosodd sgiliau cymorth cyntaf gwych ac roedd hi'n glyfar iawn i ddiffodd yr hob nwy a'r popty."

Ychwanegodd mam Aisha, Lucy: "Rydym ni mor falch o'n merch anhygoel.

"Mae ei hymateb cyflym a sgiliau datrys problemau yn rhoi llawer o falchder i mi. Mae hi'n seren."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.