Newyddion S4C

Dryswch pentrefwyr ger Rhuthun wrth i bobl chwilio am archfarchnad yno

Newyddion S4C

Dryswch pentrefwyr ger Rhuthun wrth i bobl chwilio am archfarchnad yno

Mae trigolion ym mhentref Cyffylliog ger Rhuthun yn dweud eu bod wedi drysu ac yn annog pobl i beidio â dod yno yn chwilio am archfarchnad Aldi.

Daw’r alwad ar ôl i rywun newid lleoliad yr archfarchnad ar wefan Google Maps am gyfnod i ddweud bod un o archfarchnadoedd y cwmni wedi ei lleoli yng nghanol y pentref gwledig - er nad yw yno.

Dweud mae’r cynghorydd lleol bod un lori wedi mynd yn sownd wrth chwilio am yr archfarchnad gan ddweud er ei fod yn ddoniol ar un wedd, ond bod ochr ddifrifol i'r mater hefyd.

Yn ôl Google Maps mae’r lleoliad bellach wedi ei ddileu ac mae nhw’n gweithio’n galed i ddileu ffug wybodaeth.

Dryswch

Yn ôl trigolion lleol cafodd y newid i’r feddalwedd ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf ac er bod hyn yn bellach wedi’w ddatrys roedd 'na dipyn o ddryswch.

“Dwi’m yn gwybod beth sydd ‘di digwydd ond mae pawb di dilyn y Sat Nav felly oedd y ceir yn mynd fyny ac mi nath lori'r un fath”, meddai Llinos Watkin Jones yn y pentref.

“Mi ath y tryc yn styc ganol y ffordd ac mi natho o daro gwifren gynno ni ar y tŷ, tŷ'r ferch 'lly, felly dwi’n disgwyl rhywun yma i drwsio hynny.

“Sw ni’n falch sa’r Sat Nav ddim yn deud wrth bobl i ddod ffordd hyn!

“Na, does ‘na ddim Aldi ffordd hyn. Plîs peidiwch â dod.. does 'na ddim siop fawr yma!”

Image
Lleoliad 'Aldi' yng Nghyffylliog

Yn ôl y Cynghorydd lleol dros ward Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, Elfed Williams, mae’n dweud bod  jôc yn gallu troi’n gas ac achosi strach. 

“Yndi mae’n ddoniol ar un wedd ond yn siriys ar ochr arall. 

“Mi aeth lori yn sownd ac aeth y ffermwr i drio’i helpu ac fel unrhyw lon gefn ‘dy nhw ddim yn addas i lori mor fawr.

“Lle mae rheolaeth Google bod rhywun yn gallu mynd a dweud bod 'na Aldi mewn ardal lle mae 'na ffermdy? 

“Mae pobl [leol] di trio bod yn helpu pobl sy’n dod yma drwy Sat Nav ond ia dydi o ddim yn ddoniol ar ochr arall, mae pobl ‘ma eisiau ffeindio eu stordy a mynd i Aldi ac mae nhw’n ffendio eu hunain yng nghefn gwlad!”

Normalrwydd yn ôl

Gyda’r lleoliad ar y feddalwedd bellach wedi ei ddileu mae trigolion yn dweud bod pethau wedi distewi unwaith eto a bod bywyd wedi dychwelyd yn ôl i normal. 

Yn ôl cwmni Google mae’r lleoliad “eisoes wedi ei ddiweddaru ar Google Maps.

“Mae’n systemau awtomatig a gweithwyr yn gweithio’n ddiflino i fonitro'r mapiau ar gyfer unrhyw wybodaeth amheus. 

“Rydym hefyd yn gwneud hi’n haws i bobl adrodd unrhyw gamgymeriadau neu safleoedd amheus sy’n helpu gyda dilysu mapiau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Aldi eu bod nhw’n deall bod y wybodaeth bellach yn gywir. 

Gyda’r wybodaeth bellach wedi ei gywiro fe all pobl unwaith eto fynd ati i wneud eu siopa wythnosol – lle bynnag mae hynny - heb fynd ar gyfeilion drwy bentref bach Cyffylliog.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.