Dynes yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi digwyddiad ger Wrecsam
27/03/2024
Mae dynes oedrannus yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi digwyddiad ger Wrecsam nos Fawrth.
Fe gafodd y ddynes ei darganfod yn anymwybodol yn ardal Meadow Lea ger y gyffordd â Ffordd Montgomery.
Fe gafodd ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Yn dilyn apêl am dystion, mae'r heddlu wedi cadarnhau nad yw'r amgylchiadau yn ymwneud â'r digwyddiad yn rhai amheus.
Mae camerâu cylch-cyfyng o'r ardal yn dangos fod yr anafiadau yn rhai damweiniol.