Cyffro a nerfau yn y brifddinas cyn i Gymru herio Gwlad Pwyl
Mae degau o filoedd o gefnogwyr Cymru'n dechrau ymgasglu yn y brifddinas cyn y gêm dyngedfennol yn erbyn Gwlad Pwyl yn ddiweddarach nos Fawrth.
Fe fydd Cymru yn sicrhau eu lle yn Euro 2024 am y trydydd tro yn olynol os ydynt yn ennill.
Enillodd Cymru o bedair gôl i un yn erbyn Y Ffindir yn rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Euro 2024 nos Iau i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.
Llwyddodd Gwlad Pwyl i guro Estonia o 5-1 ar yr un noson.
Fe fydd y ddau dîm yn gobeithio sicrhau eu lle yn Yr Almaen gyda buddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1772665821254279367
Wrth siarad cyn y gêm fe ddywedodd capten Cymru, Ben Davies bod y garfan yn gallu cystadlu gydag unrhyw wlad.
"Maen nhw'n dîm da, so ni'n mynd i gymryd unrhyw beth oddi wrthyn nhw.
" 'Da ni wedi bod yn dangos 'da ni yn gallu cystadlu yn erbyn unrhyw un.
" 'Da ni'n gobeithio bod ni'n gallu gwneud y swydd o fewn 90 munud."
Mae'r awdurdodau hefyd wedi cynghori pobl sy'n teithio i'r gêm i adael digon o amser er mwyn cyrraedd mewn pryd.
Gemau ail-gyfle
Mae gan Gymru brofiad o chwarae mewn gemau ail-gyfle, wedi iddynt guro Awstria ac yna Wcráin i gyrraedd Cwpan y Byd 2022.
Ond mae angen i Gymru fod ar eu gorau i gyflawni hynny eto.
Y tro diwethaf i Gymru herio Gwlad Pwyl oedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 2022.
Colli 2-1 oddi cartref, a cholli 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd oedd y canlyniadau bryd hynny.
Dyw Cymru ddim wedi ennill yn erbyn Gwlad Pwyl ers dros 50 mlynedd.
1973 oedd y tro diwethaf i'r Dreigiau guro eu gwrthwynebwyr nos Fawrth.
Pe bai Cymru yn llwyddo i gyrraedd yr Almaen yn yr haf, fe fyddan nhw yn yr un grŵp â’r Iseldiroedd, Awstria a Ffrainc.
Inline Tweet: https://twitter.com/Cymru/status/1772579666999603594