'Un o bob pump' o blant a phobl ifanc wedi profi bwlio ar-lein
Mae bron i un o bob pump o blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi profi bwlio ar-lein, yn ôl adroddiad newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae’r adroddiad Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol wedi awgrymu bod 17% o’r 37,000 o bobl 11, 13 ac 15 oed yng Nghymru a gafodd eu holi wedi cael eu bwlio ar-lein rhwng 2021 a 2022.
Yn ôl yr adroddiad, roedd 9% o blant yng Nghymru wedi bwlio eraill ar-lein.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu bod nifer yr achosion o fwlio ar-lein yn uwch na chyn y pandemig.
Yn ôl yr arolwg o 279,000 o blant a phobl ifanc mewn 44 o wledydd Ewrop, mae'r gyfran a ddywedodd eu bod yn cael eu bwlio ar-lein wedi cynyddu ers 2018 - o 12% i 15% ar gyfer bechgyn, a 13% i 16% ar gyfer merched.
'Blaenoriaeth'
Yn dilyn y canfyddiadau, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud bod addysgu pobol ifanc, teuluoedd ac ysgolion am y gwahanol fathau o fwlio ar-lein a’u goblygiadau yn “flaenoriaeth frys”.
Dywedodd Dr Hans Henri P Kluge, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop: “Wrth i bobl ifanc newid i gymdeithasu mewn amgylchedd ar-lein yn ystod cyfnodau clo’r pandemig Covid, mae’n ymddangos bod bwlio a phrofiad o fwlio ar-lein wedi cynyddu.
“Mae canolbwyntio ar fathau rhithwir o drais gan gyfoedion bellach yn flaenoriaeth frys i ddiogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc.
“Mae’n rhaid ystyried bwlio ar-lein fel mater o bwys i gymdeithasau.”
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Louise Israel, Rheolwr Tîm Childline NSPCC Cymru: “Mae’n bwysig cofio nad oes yn rhaid i blant a phobl ifanc gael trafferth gyda materion fel bwlio ar-lein ar eu pen eu hunain.
“Byddem yn annog unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’r mater hwn yn effeithio arno i siarad ag oedolyn y maent yn ymddiried ynddo. Gallai hyn fod yn rhiant, athro neu gwnselydd Childline ar 0800 1111 neu ar-lein wrth fynd i childline.org.uk."
“Mae gan wefan Childline lawer o gyngor ar sut i gadw’n ddiogel ar-lein yn ogystal â sut i adrodd achos o fwlio ar-lein pan mae’n digwydd.
“Gall oedolion hefyd gael cymorth ar sut i helpu plant i ddelio â bwlio ar-lein drwy ffonio Llinell Gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000 neu e-bostio help@nspcc.org.uk. Mae cyngor pellach i rieni ar wefan yr NSPCC- nspcc.org.uk.”