Cyngor Sir Powys yn cynnig newid statws iaith ysgol gynradd
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi cynlluniau i newid categori iaith ysgol gynradd dros gyfnod o amser.
Ar hyn o bryd, mae Ysgol Dyffryn Trannon yn Nhrefeglwys ger Caersws yn cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Ond mae hysbysiad statudol newydd gan y cyngor yn nodi cynlluniau i newid yr ysgol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn unig.
Fe fydd y newidiadau arfaethedig yn dod i rym fesul cam o flwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda'r dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.
Rhieni 'nerfus'
Nodwyd mewn adroddiad ymgynghori, a gafodd ei gynnal rhwng Chwefror ac Ebrill, fod rhai rhieni yn "nerfus" gan fod y ffrwd Saesneg yn "rhoi diogelwch iddynt os na fydd y ffrwd Gymraeg yn gweithio allan iddynt".
Ond mae Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris, wedi cadarnhau y bydd yr ysgol yn "sicrhau" fod pob disgybl yr ysgol yn "hollol ddwyieithog" dan y cynlluniau newydd.
Dywedodd: “Byddai symud Ysgol Dyffryn Trannon ar hyd y continwm iaith yn ein helpu ni gwrdd â nodau ac amcanion yn ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.
"Bydd hefyd yn sicrhau fod pob disgybl yn yr ysgol yn cael cyfle i ddod yn hollol ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, felly’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Mae Ms Harris wedi pwysleisio bod modd gwrthwynebu'r cynlluniau rhwng nawr a 22 Gorffennaf.
Bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried cyn i'r cyngor ddod i benderfyniad terfynol.
Llun: Google