Newyddion S4C

Wyth miliwn o swyddi yn y DU 'o dan fygythiad' o achos AI

27/03/2024
AI

Fe allai cymaint ag wyth miliwn o swyddi yn y DU gael eu colli o ganlyniad i AI - neu 'ddeallusrwydd artiffisial' petai'r “senario waethaf” yn digwydd, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd dadansoddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) fod y DU yn wynebu cyfnod o drawsnewid rhyfeddol o amgylch datblygiad AI.

Mae awduron yr adroddiad yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol deg yn ei lle.

Nododd yr adroddiad ddau gam allweddol o fabwysiadu AI: y don gyntaf, sydd eisoes ar y gweill, a'r ail don lle bydd cwmnïau'n integreiddio technoleg AI yn ddyfnach i'w prosesau. Mae awgrym y gallai cymaint â 59% o dasgau gan weithwyr fod yn agored i gael eu disodli gan gyfrifiaduron AI os na fydd ymyrraeth yn digwydd.

Dywedodd yr adroddiad mai swyddi cefn swyddfa a rhai rhan-amser oedd yn wynebu’r perygl mwyaf o gael eu disodli yn ystod y don gyntaf – gan gynnwys rolau ysgrifenyddol, gwasanaethau cwsmeriaid a gweinyddol. Mae menywod a phobl ifanc yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan eu bod yn tueddu i fod yn y swyddi hynny.

Cyflogau is

Nodwyd hefyd mai'r rhai ar gyflogau is oedd y rhai mwyaf agored i gael eu disodli gan AI.

Senario achos gwaethaf yr astudiaeth ar gyfer yr ail don o AI fyddai tua 7.9 miliwn o swyddi’n cael eu colli.

Ond, mae'r adroddiad yn awgrymu os yw'r llywodraeth a diwydiant yn ymateb yn amserol i amddiffyn gweithwyr wrth i'r defnydd o AI gynyddu, y gallai fod manteision economaidd sylweddol.

'Hwb economaidd'

Dywedodd yr adroddiad y gallai senario achos gorau ar gyfer yr ail don olygu na fyddai unrhyw swyddi’n cael eu colli gan eu bod yn cael eu hymestyn i weithio ochr yn ochr ag AI.

Yn ôl y ddogfen gallai arwain at hwb economaidd o 13%, sef tua £306 biliwn y flwyddyn.

Dywedodd Carsten Jung, Uwch Economegydd yn yr IPPR: “Gallai AI cynhyrchiol, sydd eisoes yn bodoli, arwain at amhariad mawr ar y farchnad lafur neu fe allai roi hwb aruthrol i dwf economaidd. Y naill ffordd neu’r llall, bydd yn newid y gêm i filiynau ohonom.

“Mae llawer o gwmnïau eisoes yn buddsoddi ynddo, ac mae ganddo’r potensial i gyflymu llawer mwy o dasgau wrth i fwy o fusnesau ei fabwysiadu.

“Dros y pum mlynedd nesaf fe allai drawsnewid byd gwaith.

“Y cwestiwn nawr yw nid a allai AI fod yn ddefnyddiol, ond yn hytrach pa mor gyflym ac ym mha ffordd y bydd cyflogwyr yn ei ddefnyddio?"

Ychwanegodd bod angen i'r llywodraeth a'r cyflogwyr ddechrau paratoi rŵan er mwyn rheoli AI mewn ffordd bositif.

“Os na fyddan nhw'n gweithredu'n fuan, fe allai fod yn rhy hwyr," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.