Newyddion S4C

Aniddigrwydd dros gynlluniau i ehangu chwarel

26/03/2024

Aniddigrwydd dros gynlluniau i ehangu chwarel

Ers 1885, mae chwarel ar safle Craig yr Hesg ger Pontypridd.

Er i Gyngor Rhondda Cynon Taf wrthod dau gais i ehangu'r chwarel wnaeth Llywodraeth Cymru ganiatau i 10 miliwn tunnell o dywodfaen gael ei gloddio yma.

Beth mae fel pan maen nhw'n rhoi ffrwydron bant yn y chwarel?

"Mae ddim yn dda o gwbl ac mae'r tŷ yn symud."

Un sy 'di byw yn Glyncoch ar hyd ei bywyd yw Annemarie Coggins.

Mae hi'n credu bod dwst o'r chwarel yn neud niwed i iechyd pobl leol a bod ffrwydron yn achosi difrod i'r tai.

Mae'n grac gyda phenderfyniad y Llywodraeth.

"Dydyn nhw ddim yn deall bywyd yn yr ardal yma.

"Mae nifer o bobl yn cael asthma a COPD.

"Mae llawer o graciau yn y waliau."

Mae'r cynghorydd lleol yn dweud bod nifer o'i etholwyr yn gofyn iddo fe fynd i'w tai i weld difrod i walydd.

"This is typical of damage that's been done through, in my opinion, vibration when there's a blast."

Mae e hefyd yn cwestiynu caniatau ehangu'r chwarel.

You're a Labour councillor in a Labour heartland.

The local council rejected the original two applications but the Labour Government in Cardiff Bay overturned that.

How do you feel as someone living in Glyncoch representing Labour?

"Absolutely astounded. I see no justification at all.

"If the minister had come here and looked at what you're looking at she would have gone away and thought there's something up!"

Yn ol cwmni Heidelberg sydd berchen y safle enillon nhw eu hapel i ganiatau ymestyn y chwarel a chael costau.

Maen nhw'n dweud bod eu tystiolaeth ddim yn cefnogi pryderon pobl leol.

Maen nhw'n ddiwydiant sydd wedi'i reoleiddio yn fanwl ac y byddan nhw'n gweithio'n galed i leihau unrhyw effeithiau posib.

Maen nhw'n dweud bod tywodfaen o'r chwarel o ansawdd da iawn ar gyfer arwyneb hewlydd sy'n golygu bod eu cais i ehangu yn achos arbennig dan reolau cynllunio Cymreig.

Ond gyda ward Glyncoch yn un o'r 5% o ardaloedd mwyaf difreintiedig mae un aelod o'r Senedd yn dweud bod y bobl leol dan anfantais wrth ymladd eu hachos.

"Mae'n heriol i ardal ddifreintiedig wneud achos yn erbyn cwmni mawr.

"Mae Llywodraeth Cymru a Julie James wedi rhoi'r caniatad hwnnw.

"Ni 'di datgan argyfwng hinsawdd a natur yng Nghymru ond mae datblygiadau fel hyn dal yn parhau ac yn gwneud dim synnwyr."

Dweud mae Llywodraeth Cymru na all gweinidogion wneud sylw ar eu penderfyniad i ganiatau'r apêl cynllunio oherwydd dan gyfraith cynllunio, mae'r penderfyniad yn derfynol.

Er gwaetha'r gwrthwynebiad lleol mae'n debyg bydd chwarel yn parhau yn Glyncoch am 20 mlynedd arall.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.