Newyddion S4C

Cynnydd yn nifer achosion y pas [whooping cough]: Beth yw'r symptomau?

ITV Cymru 26/03/2024
Dyn yn peswch

Mae nifer yr achosion o'r  pas [whooping cough] yng Nghymru ar eu huchaf ers 2015.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw ar ferched beichiog a rhieni i sicrhau bod eu plant yn derbyn brechiadau wedi cynnydd yn nifer yr achosion o'r cyflwr.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae nifer yr achosion o’r pas wedi codi i 122 o bobl, o’i gymharu â 76 o bobl yn yr wythnos flaenorol.

Mae'r pas yn haint bacteriol ar yr ysgyfaint a'r tiwbiau anadlu sydd gallu lledaenu yn hawdd, gan achosi problemau iechyd difrifol i rai. 

Gall y peswch bara am rai wythnosau neu fisoedd.

Beth yw’r symptomau? 

Mae symptomau buan yr haint yn debyg i annwyd, gan gynnwys trwyn yn rhedeg a dolur gwddf.

Ar ôl tua wythnos gall y symptomau ddatblygu i: 

-Pyliau o beswch sy'n para am rai munudau ac sy'n waeth yn y nos.

-Bydd rhai yn gwneud sŵn wrth anadlu rhwng peswch.

-Anhawster wrth anadlu ar ôl pwl o beswch a gallu troi'n las neu'n llwyd (babanod ifanc).

-Pesychu mwcws trwchus, a all wneud fabanod chwydu;

-Y wyneb yn troi yn goch iawn (yn fwy cyffredin mewn oedolion).

Image
Brechiad

Mae unigolion sydd gyda’r pas yn heintus am tua chwe diwrnod ar ôl i'r symptomau tebyg i annwyd ddechrau hyd at dair wythnos ar ôl i'r peswch ddechrau.

Mae babanod dan chwe mis oed sydd gyda’r pas yn fwy tebygol o gael problemau fel diddiffyg hylif, anawsterau anadlu, niwmonia a ffitiau.

Mae’r haint yn tueddu i fod yn llai difrifol mewn plant hŷn ac oedolion ond gall achosi problemau fel poen yn yr asennau, torgest, heintiadau i’r glust ganol, a phroblemau wrth basio dŵr. 

Mae rhagor o  fanylion am y pas ar wefan y GIG.

Dywedodd Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Roedd achosion o’r pas yng Nghymru yn gostwng ond maent wedi codi eto'r wythnos hon, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi’n monitro’r sefyllfa.

"Mae'r pas fel pe bai yn ei anterth bob tair i bedair blynedd, ac yn dilyn cylchrediad llai yn 2020-2022, mae’r haint ar ei lefel uchaf ers 2012 a 2015.

"Mae'r pas yn glefyd y gellir ei atal drwy frechlyn. Mae'r brechlyn y pas wedi'i gynnwys yn y 'brechlyn 6-mewn-1' a roddir i fabanod wyth, 12 ac 16 wythnos oed, yn ogystal â dos atgyfnerthu cyn-ysgol tua 3 oed a 4 mis."

Lluniau: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.