Newyddion S4C

Rhyfel y Falklands: Ystyried cyhoeddi dogfennau cyfrinachol

26/03/2024
Falklands Llun y Lleng Brydeinig

Mae gweinidogion yn ystyried cyhoeddi dogfennau cyfrinachol o ryfel y Falklands, pan gafodd llong ryfel y Syr Galahad ei bomio gydag aelodau'r gwarchodlu Cymreig ar ei bwrdd.  

Yn ôl y Gweinidog Amddiffyn yn San Steffan, gallai dwy ddogfen gael eu cyhoeddi yn fuan.

Mae Andrew Murrison wedi dweud yn Nhŷ'r Cyffredin fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried eu cyhoeddi, ar ôl gwirio materion cyfreithiol.  

Ymosododd llu awyr yr Ariannin ar longau'r Syr Galahad a Syr Tristram ar 8 Mehefin 1982.

Bu farw mwy na 40 o filwyr oedd ar fwrdd y Syr Galahad, a chafodd llawer mwy eu hanafu.

Wedi'r drychineb, cafodd aelodau'r Gwarchodlu Cymreig eu beirniadu gan rai am beidio â gadael y llong ynghynt.

Roedd rhai yn dadlau iddyn nhw ganiatáu i'r llong fod mewn sefyllfa fregus. Roedd adroddiadau am ddryswch ar fwrdd y llong.

Yn San Steffan, roedd y cyn weinidog Syr Iain Duncan Smith ymhlith yr aelodau seneddol a alwodd ar y llywodraeth i gyhoeddi'r dogfennau.

Roedd yn dweud bod angen eu cyhoeddi er mwyn adfer enwau da'r milwyr sydd wedi cael eu "beirniadu'n hallt." 

Dywedodd Jessica Morden, Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Casnewydd: “Ddydd Sadwrn, ro'n i'n bresennol yn y digwyddiad coffa ac aduniad cyntaf ar gyfer y rhai a oroesodd yr ymosodiad ar y Syr Galahad, yn ogystal â theuluoedd y milwyr a gafodd eu lladd. 

"Mae hi'n ofnadwy o bwysig fod y dogfennau yn cael eu cyhoeddi er mwyn i ni gael  gwybod y gwirionedd am yr hyn ddigwyddodd ar 8 Mehefin, 1982."

Wrth ymateb, dywedodd Mr Murrison “Mae'n bwysig fod hyn yn cael ei drin yn gyflym, ac ry'n ni yn symud yn gyflym er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd."   

Wrth gael ei holi am yr union gyfnod awgrymodd Mr Murrison na fyddai'n "flynyddoedd" cyn i'r dogfennau gael eu cyhoeddi.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.