Newyddion S4C

Prydain yn gosod sancsiynau ar Tsieina wedi ymosodiad seiber

Oliver Dowden

Mae Llywodraeth Prydain wedi gosod sancsiynau ar Tsieina yn sgil ymosodiad seiber yn 2021.

Mae dau berson ac un cwmni wedi cael eu cosbi.

Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog Oliver Dowden, China oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad seiber a ddatgelodd fanylion personol 40 miliwn o bleidleiswyr.

Ond yn ôl China honiadau “cwbl ddi-sail” yw'r rhain sydd ddim llai na “siarad maleisus”.

Mae’r sancsiynau wedi eu gosod ar yr unigolio Zhao Guangzong a Ni Gaobin a’r cwmni Wuhan Xiaoruizhi Science and Technology Company Ltd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau ar y Comisiwn Etholiadol ym mis Awst 2021, ond dim ond y llynedd y cawsant eu datgelu.

Y gred yw bod sawl aelod seneddol ac arglwydd sydd wedi bod yn feirniadol o China hefyd wedi cael eu targedu.

Roedd y manylion ar y cofrestrau yn cynnwys enw a chyfeiriad unrhyw un yn y DU a gofrestrodd i bleidleisio rhwng 2014 a 2022, yn ogystal ag enwau’r rhai sydd wedi’u cofrestru fel pleidleiswyr tramor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.