Israel yn canslo cyfarfod gydag America
Mae arweinwyr Israel wedi canslo cyfarfod yn Washington ar ôl i America ddewis peidio pleidleisio ar gynnig Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddydd Llun.
Roedd y cynnig yn galw am gadoediad diamod ac ar unwaith yn Gaza, yn ogystal â rhyddhau'r holl wystlon sydd wedi eu cipio ers mis Hydref.
Dyma'r tro cyntaf i aelodau'r Cyngor Diogelwch ddod i gytundeb drwy alw am gadoediad ers i'r rhyfel rhwng Hamas ac Israel ddechrau ar 7 Hydref.
Pleidleisiodd 15 aelod o'r cyngor o blaid galw am gadoediad, wrth i America ymatal. Mae'r cam hwn gan yr Americanwyr yn codi cwestiynau am y berthynas rhyngddyn nhw ag Israel bellach, gyda'r ddwy wlad wedi bod yn gefnogol iawn i'w gilydd.
Yn y misoedd diwethaf roedd America wedi atal cynigion yn galw am gadoediad, gan ddadlau y byddai cam o'r fath yn anghywir, wrth i drafodaethau sensitif barhau rhwng Israel a Hamas.
Ond ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd yr Americanwyr eu cynllun drafft eu hunain, yn galw am y tro cyntaf am gadoediad.
Mae America yn gynyddol feirniadol o Israel, wrth i nifer y marwolaethau gynyddu yn Gaza.
Mae mwy na 32,000 o bobl, menywod a phlant yn bennaf, wedi eu lladd yno yn ystod ymosodiadau Israel, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.
Yn sgil y datblygiadau diweddaraf, mae Israel wedi cyhoeddi na fydd yn cyfarfod â'r Americanwyr yn Washington.
Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi cyhuddo'r Americanwyr o gefnu ar eu polisi blaenorol.
Mae'r tensiynau'n cynyddu rhwng y ddwy wlad, yng nghanol rhybuddion bod angen gweithredu ar frys er mwyn atal newyn yn Gaza.
Am y tro cyntaf, mae'r Deyrnas Unedig wedi gollwng cyflenwad o fwyd yn Gaza wrth i'r Ysgrifennydd Amddiffyn Grant Shapps apelio ar Israel i ganiatáu i fwy o gyflenwadau gyrraedd y diriogaeth.
Ddydd Llun, llwyddodd y Llu Awyr i ollwng 10 tunnell o gyflenwadau dyngarol yno, a oedd yn cynnwys dŵr, reis, olew coginio, bwyd mewn tuniau a bwyd ar gyfer babanod.