Newyddion S4C

Ymlaen i'r Almaen? Yr Almaenwr sy'n cefnogi Cymru

26/03/2024
Klaus Neuhaus

"Dwi'n caru yr angerdd Cymraeg."

Mae Klaus Neuhaus yn dod o Düsseldorf yn Yr Almaen, ond ers bron i 30 mlynedd, mae'n cefnogi tîm pêl-droed Cymru. 

Yn gefnogwr tîm pêl-droed Yr Almaen ym 1995, teithiodd Klaus i Gaerdydd i gefnogi'r Almaenwyr yn erbyn Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 1996 ym Mharc yr Arfau, gyda Chymru yn colli o 2-1. 

Yn y gêm honno, fe gafodd Klaus gynnig gan gefnogwr y tîm cenedlaethol, Neil Dymock - un o gyfarwyddwyr elusen Gôl Cymru bellach, i gyfnewid tocyn a chrys gan olygu y byddai'n eistedd gyda chefnogwyr Cymru. 

Ers y gêm honno yn 1995, cefnogwr Cymru ydy Klaus, ac nid yr Almaen. Ac mae'n cefnogi Cymru gartef, drwy deithio o'r Almaen i Gymru, ac oddi cartref, drwy deithio hefyd i gefnogi Cymru ar gyfandir Ewrop. 

Wedi iddo gael sedd yng nghanol cefnogwyr Cymru yn 1995 aeth i'w gwylio nesaf yn chwarae oddi cartref yn erbyn y Swistir.  

Image
Klaus gyda Neil Dymock yn Dusseldorf ym 1995.
Klaus gyda Neil Dymock ym 1995.

"Pryd des i i Lugano doedd dim o ffrindiau fi yno. Felly fe es i westy tîm Cymru i ffeindio cefnogwyr arall. Pwy nes i ffeindio oedd Mr Brian Fear, sef Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, " meddai wrth Newyddion S4C. 

"Gaethon ni sgwrs am pêl-droed ac am y stadiwm newydd yng Nghaerdydd. Gwnes i adael yr gwesty gyda pin ac tocyn i’r gêm ac ar ôl,  wnes i gwrdd â ffrindiau fi."

Image
Klaus Neuhaus
Klaus Neuhaus a'i bartner Kerstin, a Homer! yn Y Bala. 

Ac ers y daith honno i'r Swistir bron i 30 mlynedd yn ôl, mae Klaus wedi dod yn ffrindiau â nifer fawr o gefnogwyr y Wal Goch yn ystod y degawdau diwethaf.  

Ei gêm orau erioed yn cefnogi Cymru oedd yr un yn erbyn Cyprus ym 2015 yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016. 

"Roedd yn gêm bwysig ar gyfer Euro 2016 ac roedd hi'n gêm bwysig i ni ac netho ni ennill ac wedyn qualifyio i Euro 2016,  a 'dyn ni gyd yn gwybod beth ddigwyddodd wedyn."

Image
Klaus gyda ffrindiau
Klaus gyda ffrindiau yn y gêm yn erbyn Cyprus yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016.

Felly pam nad yw Klaus yn cefnogi'r Almaen ag yntau'n Almaenwr?

"Dydy hi ddim mor gyffrous â hynny i gefnogi'r Almaen, mae'n anodd egluro. Dwi'n caru yr angerdd Cymraeg ac yn caru yr angerdd yn y stadiwm, ac yn caru fy ffrindiau Cymraeg wrth gwrs," meddai. 

"Yn yr Almaen, a ninnau yn bencampwyr byd bedair gwaith, beth mae pobl yn ei ddisgwyl ohonyn nhw, ac os nad ydyn nhw'n llwyddo, mae'r cefnogwyr yn eu casau nhw.

"Os ydi Cymru yn colli, mae pobl dal yn eu caru nhw."

Image
Klaus ac Ian Rush
Klaus gydag un o sêr Cymru a Lerpwl, Ian Rush.

Yn ogystal â'n gefnogwr brwd o'r tîm cenedlaethol, mae Klaus hefyd wedi dysgu Cymraeg. Aeth ati i ddechrau dysgu yn ystod cyfnod Covid. 

"Roedd fy ffrindiau yn siarad am dalu'r bil mewn bwyty yn Belgrade yn 2017 [adeg gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia ] ac do'n i'n deall dim byd. Felly fe wnes i ddechrau dysgu yn y pandemig," meddai.

Ac mae gan Klaus ffrind newydd sydd yn dod gydag e i gemau Cymru bellach.

Roedd tipyn o ddirgelwch yn ystod gemau hydref 2023 ynglyn â phwy ddaeth â thegan anferth Homer Simpson i'r stadiwm, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn gofyn am ei hanes ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Ym mis Hydref y llynedd, fe benderfynodd Klaus ddod â ffrind gydag e draw o'r Almaen i Gymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Ers hynny, mae Homer hefyd yn gefnogwr brwd o Gymru.

Image
Homer
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi sylwi ar eu cefnogwr newydd yn y dorf. 

Byddai Klaus wrth ei fodd pe byddai Cymru yn gallu cyrraedd Euro 2024, a hynny yn ei wlad enedigol. 

"Mae'n deimlad nerfus iawn a ninnau angen qualifyio o hyd. Ond byddai'n wych, massive. Dyma'r cwbl ydw i wedi bod eisiau erioed. Y teimlad gorau'r erioed. Roedd hi'n dda iawn yn Ffrainc, ond yn yr Almaen - gwell!"

Mae yna sawl peth sydd yn arbennig i Klaus am y Wal Goch.

"Yn y gêm yn erbyn y Ffindir, roedd eu cefnogwyr nhw yn codi eu ffonau symudol pan yr oeddem ni'n canu'r anthem, a dyna'r effaith ar bobl, cefnogwyr sy'n dod i Gaerdydd pan yn gweld y Wal Goch yn canu. Yr atmosffer gorau erioed." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.