Newyddion S4C

Syr Keir Starmer yn cyhoeddi cynlluniau ynni yn ystod ymweliad â Sir Fôn

Keir Starmer a Vaughan Gething

Mae arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Syr Keir Starmer, wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu cwmni ynni glân cyhoeddus yn ystod ei ymweliad â gogledd Cymru ddydd Llun.

Y cynllun gwerth £8.3 biliwn i adeiladu ffermydd gwynt ar y môr syw’r buddsoddiad cyntaf y byddai cwmni Great British Energy yn ei wneud, pe bai’r blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.

Yn ôl y blaid, byddai'n creu "degau ar filoedd o swyddi sydd angen sgiliau ar hyd a lled Cymru".

Ymunodd y Prif Weinidog newydd Vaughan Gething â Syr Keir Starmer ym mhorthladd Caergybi wrth iddo ddatgelu'r cynllun, gan nodi y byddai'r fenter yn arwain at lai o ddibyniaeth ar ynni o dramor. 

Mae costau ynni wedi cynyddu'n sylweddol ers i Rwsia ymosod ar Wcráin ym mis Chwefror 2022.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r cyhoeddiad gan ei alw'n "wariant heb ei ariannu" a allai arwain at "drethi uwch" i deuluoedd.

Image
Keir Starmer a Vaughan Gething
Llun: Peter Byrne/PA

Pe bai'r blaid Lafur yn ffurfio Llywodraeth yn San Steffan wedi'r Etholiad Cyffredinol, mae’r blaid wedi addo rhoi £8.3 biliwn i ‘Great British Energy’ dros gyfnod o bum mlynedd.  

Mae llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig yn San Steffan, Jo Stevens, AS Canol Caerdydd, wedi dweud y byddai'r arian yn dod o dreth ffawdelw (windfall tax) o 75% ar gynhyrchwyr olew a nwy.

Wrth siarad â Times Radio Breakfast, dywedodd Ms Stevens ei fod yn "gynllun cyffrous, beiddgar ac uchelgeisiol."

Dywedodd fod y Ceidwadwyr wedi "chwalu" yr economi gyda phenderfyniadau "byrolwg", ac y byddai cwmni Great British Energy yn rhwydwaith o "swyddi ac isadeiledd fydd yn cael eu hadeiladu i bara".

Cyn yr ymweliad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething: “Gydag uchelgais newydd, gall Cymru gymryd ei lle ar y ffin â chwyldro swyddi gwyrdd sy’n tanio uchelgais newydd ac yn ehangu gorwelion.

“O fuddsoddiad ynni llanw arloesol i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus Cymru - Ynni Cymru - mae ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn adeiladu’r dyfodol hwnnw yma yng ngogledd Cymru."

 

Image
Keir Starmer a Vaughan Gething
Llun: Peter Byrne/PA

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros  Ddiogelwch Ynni, Claire Coutinho:

“Mae’r dewis yn glir: glynwch gyda’r Ceidwadwyr i sicrhau diogelwch ynni hirdymor. Neu camwch yn ôl gyda Llafur, gyda'u haddewidion gwariant heb eu hariannu yn golygu trethi uwch i deuluoedd sy’n gweithio’n galed.”

Prif lun: Peter Byrne/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.