Newyddion S4C

Aniddigrwydd dros gynlluniau i ehangu chwarel

Newyddion S4C 25/03/2024

Aniddigrwydd dros gynlluniau i ehangu chwarel

Mae trigolion un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn "grac" ac "wedi syfrdanu" ag ymateb Llywodraeth Cymru sydd "ddim yn deall sut mae bywyd" yno, yn eu barn nhw.

Ym mis Hydref 2022, rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, Julie James, ganiatad i ehangu chwarel Craig yr Hesg ger Glyn-coch, Pontypridd, ar ôl apêl.

Roedd Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi gwrthod dau gais blaenorol i ehangu.

Yn ôl Arolygwr Cynllunio, byddai "peth niwed cyfyngedig i brydferthwch lleol o ran swn a safon yr aer" ond roedd yn teimlo bod "amodau arfaethedig yn lleddfu effeithiau i lefel dderbyniol."

Nodwyd hefyd bod gwrthwynebiadau blaenorol yn "anecdotaidd ac heb eu cefnogi gan dystiolaeth annibynnol a gwrthrychol."

Rhoddwyd "pwyslais sylweddol" i'r math o dywodfaen sydd yn cael ei gloddio yn y chwarel, oedd yn ôl yr arolygwr yn "un o'r ffynonellau ar gyfer arwyneb hewlydd o'r safon uchaf nid yn unig yn Ne Cymru, ond drwy'r DU."

Bydd 10 miliwn tunnell arall o'r tywodfaen nawr yn cael ei gloddio yn yr ardal tan 2047.

Mae gwaith paratoi ar y tir ger y safle presennol wedi dechrau, a phobl lel wedi trefnu cyfarfodydd cyhoeddus i wrthwynebu'r datblygiad. 

Maen nhw'n poeni am yr effaith ar fywyd gwyllt, ardaloedd gwyrdd ac yn ofni y bydd yr ehangu yn effeithio ar iechyd pobl leol a'u cartrefi. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ward Glyn-coch sydd yn ffinio â safle'r chwarel yn un o'r 5% o ardaloedd mwyaf difreintiedig drwy'r wlad.

"Iechyd yn bwysicach" 

Mae Annemarie Coggins yn byw yng Nglyn-coch erioed. Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn dioddef o asthma ac yn credu bod dwst o'r chwarel yn gwaethygu'r cyflwr.

"I fi, mae pwysigrwydd iechyd yn bwysicach na'r hyn sydd yn cael ei gloddio."

Bydd ehangu'r chwarel yn golygu bydd y safle yn cyrraedd o fewn ychydig o gannoedd o fetrau i'w chartref.

Pan mae ffrwydradau yn y chwarel, mae'n dweud fod y "tŷ yn ysgwyd" a'i fod yn teimlo "fel daeargryn".

Mae'n "grac" gyda Llywodraeth Cymru am ganiatáu ehangu'r chwarel gan ddweud "dydyn nhw ddim yn diddoef gyda asthma a COPD fel ydyn ni lan fan hyn."

Roedd nifer o bobl yr ardal eisiau dangos difrod i'w tai i gamerâu Newyddion S4C, a sawl un yn credu mai ffrwydradau yn y chwarel sydd yn gyfrifol. 

Mae'r cynghorydd Llafur lleol Doug Williams wedi derbyn diagnosis o COPD ac emphysema yn ddiweddar ac yn rhoi'r bai am hynny ar lwch y chwarel.

Dywedodd ei fod "wedi ei syfrdanu yn llwyr" gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu'r ehangu, gan ddweud petai'r Gweinidog wedi ymweld â'r ardal "byddai wedi gweld gyda'i llygaid ei hun bd rhywbeth o'i le." 

Un arall sydd wedi beirniadu'r llywodraeth yw Aelod Senedd Plaid Cymru Heledd Fychan. 

"Mae llais y gymuned wedi'i anwybyddu" dywedodd.

"Maen nhw'n cael eu cosbi am fod cwmni mawr yn gallu fforddio cyfreithwyr a bargyfreithwyr a does neb i weld yn cefnogi'r bobl leol yn eu brwydr nhw."

"Dwi'n credu bod anghysondeb mawr [ar ran llywodraeth Cymru]. Allwch chi ddim datgan argyfwng o ran hinsawdd a pheidio dilyn y peth drwyddo."

"Maen nhw i weld yn dweud un peth a gwneud rhywbeth gwahanol." 

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd modd i Weinidogion wneud sylw ar y penderfyniad i ganiatáu yr apel cynllunio oherwydd dan gyfreithiau cynllunio, mae'r penderfyniad yn derfynol.

"Rheoleddio yn fanwl" 

Mewn datganiad, dywedodd Heidelberg Materials, sydd berchen y safle, i'r apêl ganfod bod "pryderon pobl leol heb eu cadarnhau gan dystiolaeth dechnegol gyflwynwyd gan Heidelberg Materials UKL (a dderbyniwyd hefyd gan Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf) a gasglodd byddai'r cynigion, gyda'r mesurau lleddfu, yn cydymfffurfio â'r cynllun datblygu a pholisi cynllunio Cymreig perthnasol."

Dywedon nhw bod gwaith i fonitro adar wedi digwydd a'u bod yn "gwylio'r ehedydd ac yn gweithio gyda'n ecolegydd i sicrhau nad yw'r gwaith presennol yn effeithio ar y rhywogaeth yna wrth symud ymlaen."

Dywedodd y cwmni hefyd fod y sector wedi'i reoleiddio yn fanwl ac y byddan nhw yn "gweithio'n galed i leihau unrhyw effaith ar ein cymdogion", gan bwysleisio hefyd iddyn nhw gael costau wedi'u dyfarnu iddyn nhw gan yr awdurdod lleol yn ystod y broses apelio.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.