Newyddion S4C

Dau ddyn yn euog o lofruddio pêl-droediwr mewn clwb nos

25/03/2024
Marwolaeth Birmingham

Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o lofruddio pel-droediwr 23 oed mewn clwb nos yn ninas Birmingham ar ddydd San Steffan 2022. 

Cafodd Cody Fisher ei drywanu â chyllell ar y llawr dawnsio yng nghlwb nos Crane yn ardal Digbeth, toc cyn hanner nos. 

Roedd Kami Carpenter, 22, Remy Gordon, 23, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.  

Dyfarnodd y rheithgor fod trydydd dyn, Reegan Anderson, 19 yn ddieuog o'r un cyhuddiad.

Roedd Cody Fisher, yn gyn aelod o academi bêl-droed Birmingham ac yn chwarae dros Stratford Town a Bromsgrove Sporting.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.