Newyddion S4C

Byw gyda chyflwr sydd wedi 'difetha fy mywyd'

25/03/2024
Gwen a Dylan Gogglebocs

Mae un o sêr y gyfres Gogglebocs Cymru wedi bod yn sôn am y trawma o fyw gyda chlefyd parhaus a phoenus sydd wedi "difetha ei bywyd".

Mae Gwen Roberts, 45 oed, sy'n wyneb cyfarwydd ar y gyfres ar S4C  yn dioddef o glefyd Colitis Briwiol ers ei phlentyndod.

Mae'r fam i ddau o'r Fali, ar Ynys Môn, sy'n ymddangos ar y rhaglen efo'i gŵr Dylan  bellach eisiau defnyddio ei henwogrwydd newydd fel llwyfan i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr nad oes llawer yn gwybod amdano.

Mae Gwen yn ofidus hefyd oherwydd bod un o'i meibion hefyd wedi datblygu Colitis Briwiol, ac mae’n bosib bod y cyflwr yn etifeddol, ac mae wedi dechrau cymryd drosodd ei fywyd, yn union fel y digwyddodd iddi hi ei hun.

Cafodd Gwen ddiagnosis o Golitis Briwiol pan oedd ond yn 13 oed ar ôl dioddef poenau ofnadwy yn ei stumog a dolur rhydd parhaus. Collodd ddwy stôn mewn 10 diwrnod.

Ar y dechrau dywedodd y meddygon mai nam ar y bol oedd yr achos ond parhaodd ei symptomau annifyr am fisoedd, gan fynd mor ddifrifol nes bod llawfeddygon wedi penderfynu tynnu ei cholon a chafodd lawdriniaeth ileostomi.

Mae'r bag yn gweithredu fel 'colon' allanol sy'n gorwedd y tu allan i'r stumog ac yn gweithio i gael gwared ar wastraff corfforol sy’n cael ei gyfeirio o'r coluddyn bach.

'Cywilydd ac embaras'

Mi wnaeth trawma'r salwch a chael triniaeth mor fawr ar oed mor ifanc droi bywyd Gwen wyneb i waered.

Dywedodd: "Yn ogystal â'r boen gorfforol, mi effeithiodd ar fy iechyd meddwl. Roeddwn i'n teimlo cywilydd ac embaras am orfod byw fy mywyd efo'r bag. Doeddwn i ddim eisiau mynd allan i unman, collais fy hunan barch a'm hyder i gyd, ac roeddwn i'n teimlo'n hollol ynysig.

"Roeddwn i wedi colli ffrindiau, nad oeddwn yn eu gweld mwyach. Treuliais gymaint o amser i ffwrdd oherwydd salwch nes i mi ei chael hi'n anodd cadw i fyny efo gwaith ysgol ac aeth sibrydion rownd fy ysgol fod gen i ganser. Doedd disgyblion eraill a hyd yn oed athrawon ddim yn deall beth oedd o'i le efo mi. Roedd hi'n 1992 a doedd neb wedi clywed am Colitis Briwiol."

Hyd yn oed heddiw, 32 mlynedd ar ôl iddi gael ei diagnosis cyntaf, dywedodd mai anaml y sonnir am y salwch ac nad oes llawer o ddealltwriaeth am y cyflwr.

Nid yw arbenigwyr yn gwbl glir o hyd beth sy'n ei achosi ond maen nhw'n credu ei fod yn ddiffyg ar y system imiwnedd sy'n ysgogi celloedd corfforol unigolyn i ymosod ar eu system dreulio eu hunain.

Mae Gwen yn ei alw'n "salwch anweledig" gan nad yw pobl yn gallu gweld y symptomau a gwybod beth mae dioddefwyr yn mynd drwyddo wrth iddynt ei chael hi'n anodd byw bywydau normal.

Dywedodd Gwen fod ei mab, Gethin, 26 oed, wedi colli ei swydd pan ddaeth y salwch i'r amlwg ynddo ef am y tro cyntaf.

Dywedodd: "Aeth at ei feddyg teulu a dywedwyd wrtho fod ganddo peils, ac roeddwn i'n gwybod o fy mhrofiad fy hun fod hynny’n hollol anghywir.

Yn y diwedd mi wnes i fynnu fy mod i’n mynd yn ôl efo fo a mynnu ei fod yn cael ei gyfeirio am brofion. Mi wnes i adnabod y symptomau ar unwaith ac roeddwn i'n gwybod yn union beth oedd yn mynd drwyddo ond mae llawer o bobl allan yna ar eu pennau eu hunain, yn ei chael hi'n anodd mynd o ddydd i ddydd heb ddiagnosis cywir. Gall fod yn frawychus ac yn ofnadwy o ynysig, gan nad oes unrhyw un wir eisiau siarad am faterion yn ymwneud â thoiledau. Nid yw'n rhywbeth rydych chi eisiau siarad amdano dros goffi a chacen."

'Nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ffwrdd'

Anogodd Gwen unrhyw un sy'n profi symptomau tebyg gan gynnwys poenau stumog di-baid, dolur rhydd neu basio gwaed i gael archwiliad ar unwaith a mynnu cael prawf am Colitis Briwiol.

Fe wnaeth Gwen gyfarfod a'i gwr Dylan, sy'n gweithio yn RAF y Fali yn cynnal a chadw offer diogelwch y maes awyr, pan oedd hi'n 16 oed ac yntau'n 18 oed.

Dywedodd Gwen: "Dywedais wrtho ar unwaith beth oedd o'i le efo fi a beth oeddwn i'n mynd drwyddo. Nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ffwrdd yn llwyr, felly roeddwn i eisiau iddo wybod yn union beth oedd y sefyllfa pe bai'n dewis aros efo fi. Ond roedd yn wych, mor garedig a chefnogol, dywedodd y byddai'n gofalu amdanaf waeth beth ac mae wedi aros yn driw i'w air. Rwy'n ffodus iawn fy mod wedi dod o hyd iddo."

Yn ogystal â Gethin, mae gan y cwpl fab arall, Tomos, sy’n 25 oed.

Dywedodd Gwen ei bod hi a Dylan wrth eu boddau gyda phob munud maent wedi ei dreulio fel rhan o dîm Gogglebocs, gan ymuno fel cyfranwyr selog ar gyfer cyfres gyfredol 2024.

Dywedodd: "Mae pawb mor gefnogol ac mae wedi gwneud i ni chwerthin llawer sy'n bendant  yn beth da!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.