Newyddion S4C

Tŷ Mawr Wybrnant yn derbyn 'hwb ariannol' o bron i £300,000

25/03/2024
Ty Mawr Wybrnant

Mae Tŷ Mawr Wybrnant, cartref yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg yn derbyn "hwb ariannol" o bron i £300,000.

Ers 1951 mae Tŷ Mawr Wybrnant wedi bod dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a bellach maen nhw wedi derbyn £294,000 er mwyn "helpu i ddiogelu, dathlu a rhannu Tŷ Mawr i bawb, am byth."

Derbyniwyd bron i £150,000 gan y Wolfson Foundation, rhoddion gan ymddiriedolaethau elusennol Cymreig gan gynnwys Elusen Vronhaul ac Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones yn ogystal â buddsoddiad sylweddol gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri bod y cyllid yn galluogi iddynt rhannu mwy o straeon "unigryw."

“Fel elusen sydd wedi cael y fraint o adfer a gofalu am le mor arwyddocaol, rydym yn cydnabod bod Tŷ Mawr Wybrnant yn lle pwysig iawn i lenyddiaeth, iaith a chrefydd yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i ofalu am y lle arbennig hwn am genedlaethau i ddod.

“Rydym yn hynod o gyffrous i fod yn rhannu mwy o’r straeon ynghylch ein casgliad Beiblaidd unigryw sydd wedi’i roi i ni. Gyda chymorth ariannol y Wolfson Foundation bydd y prosiect yn gwella profiad ymwelwyr yn Nhŷ Mawr, tra’n sicrhau bod yr adeilad eiconig a’r casgliad unigryw yn cael eu diogelu a’u dathlu.”

Gwaith atgyweirio

Daeth Tŷ Mawr Wybrnant i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1951. Cafodd y ffermdy ei adfer a’i ail agor yn 1988 i ddathlu 400 mlynedd ers i’r Beibl gael ei gyfieithu i’r Gymraeg gan William Morgan, a aned yn Nhŷ Mawr. 

Chwaraeodd ei gyfieithiad rôl bwysig yn safoni’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn dal i gael ei siarad heddiw.

Mae’r prosiect yn mynd i gyfranu at y gwaith o atgyweirio i’r adeilad, creu arddangosfa casgliadau newydd a gwell mynediad i'r safle.

Y nod yw cwblhau’r prosiect erbyn haf 2025.

Llun: Ymddiredolaeth Genedlaethol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.