Newyddion S4C

Ymosodiad Rwsia: Cyhuddo pedwar o derfysgaeth

25/03/2024
Rwsia

Mae Rwsia wedi cyhuddo pedwar dyn o gyflawni gweithred o derfysgaeth yn dilyn ymosodiad mewn neuadd cyngerdd ym Moscow nos Wener lle cafodd o leiaf 137 o bobl eu lladd.

Cafodd y pedwar eu henwi gan awdurdodau Rwsia fel Dalerdzhon Mirzoyev, Saidakrami Murodali Rachabalizoda, Shamsidin Fariduni a Muhammadsobir Fayzov.

Yn ôl yr asiantaeth newyddion Tass o Rwsia, mae’r dynion yn wreiddiol o Tajikistan – sef gwlad yng Nghanolbarth Asia ar gyrion Afghanistan, a oedd yn gyn-wlad Sofietaidd.

Cafodd dros 100 o bobl eu hanafu yn adeilad Crocus City Hall yn Krasnogorsk pan ymosododd dynion gyda drylliau, cyn rhoi’r adeilad ar dân. 

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd, neu ISIS, eisoes wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Ergydion a ffrwydradau

Nid yw swyddogion Rwsia wedi cydnabod yr honiad, ond maent wedi honni - heb dystiolaeth - bod Wcráin wedi rhoi cymorth i’r ymosodwyr.

Mae Wcráin, sy’n rhyfela yn erbyn Rwsia ar hyn o bryd, wedi gwadu unrhyw gysylltiad gan alw’r honiadau yn “hurt.”

Dywedodd datganiad llys ar wasanaeth negeseuon Telegram fod Mirzoyev wedi “cyfaddef ei euogrwydd yn llawn”, tra bod Rachabalizoda hefyd wedi “cyfaddef euogrwydd”.

Mae’r pedwar yn cael eu cadw yn y ddalfa tan o leiaf 22 Mai, meddai’r llys.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn adeilad Crocus City Hall yn Krasnogorsk nos Wener ac roedd clipiau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cyfres o ergydion a ffrwydradau yno. 

Roedd torfeydd wedi ymgynnull i weld y band roc Rwsiaidd Picnic yn y neuadd cyngerdd pan ddechreuodd yr ymosodiad.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidogaeth Diwylliant Rwsia fod holl adloniant a digwyddiadau torfol y wlad wedi eu canslo.

Dywedodd Adrienne Watson, llefarydd ar ran cyngor diogelwch cenedlaethol yr Unol Daleithiau, mai’r Wladwriaeth Islamaidd oedd â "chyfrifoldeb llwyr am yr ymosodiad hwn. Nid oedd Wcráin wedi cymryd rhan o gwbl."

Mae saith o bobl eraill wedi’u harestio ar amheuaeth o gynorthwyo’r ymosodiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.