Newyddion S4C

Cyhuddo bachgen 12 oed o geisio llofruddio wedi i ferch gael ei thrywanu

24/03/2024
S4C

Mae bachgen 12 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio wedi i ferch yn ei harddegau gael ei thrywanu yng Nghaint.

Roedd y ferch 15 oed wedi dioddef anafiadau oedd yn “gyson â chlwyf trywanu” toc cyn 16.00 brynhawn Wener, ar Adeilade Drive yn Sittingbourne.

Cafodd ei chludo i ysbyty yn Llundain er mwyn derbyn triniaeth am ei hanafiadau wedi’r ymosodiad.

Mae’r bachgen, na ellir cael ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf ymosodol yn ei eiddo.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Medway ddydd Llun. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.