Pedwar o bobl wedi marw wedi gwrthdrawiad un cerbyd yng Ngogledd Iwerddon
Mae pedwar o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yng Ngogledd Iwerddon.
Digwyddodd y gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys un cerbyd yn unig, sef Volkswagen Golf lliw llwyd, am oddeutu 14.10 brynhawn Sul ar Ffordd Ballynahonemore yn ardal Armagh.
Bu farw’r pedwar person, gan gynnwys gyrrwr y cerbyd a thri pherson arall, yn y man a’r lle, meddai Heddlu Gogledd Iwerddon.
Nid yw’r bobl wedi cael eu henwi’n swyddogol hyd yma.
Dywedodd y cadlywydd rhanbarth Paul McGrattan: “Mae hon yn drasiedi i’r teuluoedd dan sylw, ac i’r gymuned ehangach, a fydd yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda cholled o’r fath yma.
“Mae ymchwiliad trylwyr a sensitif bellach yn cael ei gynnal ac rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein cynorthwyo i gysylltu â’r uned arbenigol.”
Llun: Oliver McVeigh/PA Wire