Newyddion S4C

Kate a Will yn diolch i'r cyhoedd am eu 'negeseuon caredig' ar ôl diagnosis canser Tywysoges Cymru

24/03/2024
William a Kate

Mae Tywysoges a Thywysog Cymru wedi dweud eu bod yn “hynod o ddiolchgar” am yr holl negeseuon o gefnogaeth maen nhw wedi eu derbyn yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener fod y Dywysoges wedi derbyn triniaeth am ganser. 

Daeth cyhoeddiad gan Balas Kensington ddydd Gwener bod Catherine Middleton, gwraig Tywysog Cymru, wedi dechrau derbyn triniaeth cemotherapi fis diwethaf.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Palas Kensington eu bod yn ddiolchgar am “negeseuon caredig” gan bobl ar draws y DU ac yn fyd eang. 

Dywedodd eu bod yn gwerthfawrogi “cynhesrwydd” a “chefnogaeth” y cyhoedd a’u bod yn diolch i bawb am “ddeall eu cais am breifatrwydd yn ystod yr adeg hon.”

Fe ddaw wrth i’r elusen, Cancer Research UK, dweud bod cyhoeddiad y Dywysoges Catherine wedi “codi ymwybyddiaeth” am ganser. 

Dywedodd cyfarwyddwr polisi gweithredol yr elusen, Dr Ian Walker, fod “cynnydd” wedi bod yn y nifer o bobl sydd wedi ymweld â’u gwefan yn dilyn cyhoeddiadau Tywysoges Cymru, a’r Brenin Charles ym mis Chwefror, ynglŷn â’u diagnosis o ganser. 

Gall siarad yn agored am ddiagnosis o’r fath annog pobl eraill i ymchwilio a meddwl am iechyd eu hunain, meddai. 

Fe gafodd canser Catherine Middleton ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.

Nid yw'r math o ganser wedi cael ei ddatgelu ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.