Newyddion S4C

Simon Harris wedi ei benodi'n arweinydd newydd ar Fine Gael yn Iwerddon

24/03/2024
Simon Harris (PA)

Simon Harris fydd yn olynu Leo Varadkar fel Taoiseach Iwerddon, ar ôl cael ei benodi'n arweinydd newydd ar blaid Fine Gael.

Ac yntau’n 37 oed, Mr Harris yw’r arweinydd ieuengaf ar y wlad erioed.

Wrth siarad yn Athlone, Co Westmeath brynhawn Sul, dywedodd Mr Harris ei fod am barchu’r ffaith bod pobl wedi ymddiried ynddo drwy “weithio’n galed.”

Dywedodd ei fod am ymroi ei “gwaed, chwys a dagrau” pob dydd, gan ymddwyn yn gyfrifol yn ei rôl.

“Mae’n gyfnod i Fine Gael i ail-gysylltu. Mae’n gyfnod i Fine Gael i adnewyddu ein hymrwymiad i’r bobl,” meddai.

Ychwanegodd hefyd ei fod yn benderfynol o fynd i’r afael a’r “poblyddiaeth (populism) a’r polareiddio bwriadol” y tu fewn i’r blaid. 

Roedd disgwyl i Mr Harris cael ei gadarnhau’n arweinydd newydd Fine Gael gan nad oedd unrhyw aelod arall o’r blaid wedi rhoi eu henwau ymlaen am yr arweinyddiaeth, gyda sawl aelod o’r llywodraeth yn datgan nad oedden nhw’n ymgeisio.

Roedd Mr Harris wedi cyhoeddi ei fwriad i ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid nos Iau, gyda sawl un yn ei gymeradwyo.

Mae disgwyl i Mr Harris gael ei ethol yn ffurfiol fel Taoiseach yn y Dail ym mis Ebrill yn dilyn toriad y Pasg.

Fe wnaeth Leo Varadkar synnu llawer o fewn y sefydliad gwleidyddol ddydd Mercher wrth gyhoeddi y byddai’n gadael ei swydd fel y Taoiseach a’r arweinydd Fine Gael. 

Cychwynnodd Mr Varadkar ar ei ail gyfnod fel Taoiseach yn Rhagfyr 2022, ar ôl bod yn arweinydd ar y wlad am dair blynedd rhwng 2017 a 2020.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.