Ymosodiad Rwsia: Diwrnod o alaru i gofio am dros 130 o bobl gafodd eu lladd
Mae Rwsia yn cynnal diwrnod o alaru yn dilyn ymosodiad mewn neuadd cyngerdd ym Moscow nos Wener lle cafodd o leiaf 133 o bobl eu lladd.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u canslo ar hyd a lled y wlad, gyda baneri wedi eu gostwng i hanner mast. Mae sianeli teledu hefyd wedi addasu eu hamserlenni er pharch.
Cafodd dros 140 o bobl bellach eu hanafu yn adeilad Crocus City Hall yn Krasnogorsk pan ymosododd dynion gyda drylliau, cyn rhoi’r adeilad ar dan.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd, neu ISIS, wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Mae’r Arlywydd Vladimir Putin bellach wedi cyhoeddi fod pedwar allan o’r 11 o bobl a gafodd eu harestio yn dilyn yr ymosodiad terfysgol wedi cymryd rhan uniongyrchol yn y digwyddiad gan ymosod ar bobl gyda drylliau.
Mae deunydd fideo sydd wedi ei ddarlledu yn Rwsia wedi dangos yr ymosodwyr rheiny yn cael eu cadw gan luoedd yno a’u cwestiynu mewn modd treisgar.
Honiadau
Yn ôl adroddiadau papurau newyddion Rwsia, mae’r dynion yn wreiddiol o Tajikistan – sef wlad yng Nghanolbarth Asia, ar gyrion Afghanistan, oedd hefyd yn cyn gwlad Sofietaidd.
Mae’r Arlywydd Putin wedi honni fod y dynion oedd a drylliau, wedi ceisio ffoi’r wlad gyda’r bwriad o deithio i Wcráin.
“Roeddwn nhw’n ceisio cuddio a symud tuag at Wcráin lle, yn ôl data rhagarweiniol, cafodd ffenestr ei baratoi iddynt er mwyn croesi’r ffin,” meddai’r Arlywydd Putin.
Ond nad yw Arlywydd Rwsia, na chwaith y gwasanaeth diogelwch ffederal y wlad, wedi cyhoeddi tystiolaeth sy’n profi’r cysylltiad i Wcráin.
Mae Wcráin, sy’n rhyfela yn erbyn Rwsia ar hyn o bryd, wedi gwadu unrhyw gysylltiad gan alw’r honiadau yn “hurt.”
Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud nad yw’n amau taw ISIS, neu grŵp sydd yn gysylltiedig ag ISIS, sy’n gyfrifol am yr ymosodiad.
Ychwanegodd y Tŷ Gwyn ei fod eisoes wedi rhybuddio Rwsia am botensial am ymosodiad ar “dorf fawr” ym Moscow yn gynharach mis Mawrth.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn adeilad Crocus City Hall yn Krasnogorsk nos Wener ac roedd clipiau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cyfres o ergydion a ffrwydradau yno.
Y gred yw bod torfeydd wedi ymgynnull i weld y band roc Rwsiaidd Picnic yn y neuadd cyngerdd pan ddechreuodd yr ymosodiad.
Yn dilyn y digwyddiad, roedd Gweinidogaeth Diwylliant Rwsia wedi cyhoeddi bod holl adloniant a digwyddiadau torfol y wlad wedi eu canslo.