Chwe Gwlad: Cymru yn colli eu gêm agoriadol yn erbyn yr Alban
Fe wnaeth Cymru golli o 18-20 yn erbyn yr Alban yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod ddydd Sadwrn.
O flaen dorf o gwta 6,000 ym Mharc yr Arfau, llwyddodd yr Albanwyr i ennill yng Nghymru am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, mewn gêm hynod gystadleuol.
Ar ôl i Keira Bevan rhoi Cymru triphwynt ar y blaen gyda chic cosb gynnar, daeth yr ymwelwyr yn ôl gyda chais gan yr asgellwr chwim Coreen Grant, a gafodd ei throsi gan y maswr Helen Nelson.
Fe wnaeth yr Alban ymestyn eu mantais i saith pwynt wedi 15 munud gyda chic cosb gan Nelson.
Yn chwarae gyda'r gwynt cryf yn eu hwynebau yn ystod yr hanner gyntaf, llwyddodd y tîm cartref i gau’r bwlch i 6-10 ar hanner amser, gyda chic gosb lwyddiannus arall gan Bevan.
Ail hanner
Yn ôl daeth yr Albanwyr wedi’r egwyl, gyda Rhona Grant yn sgorio ail gais ei thîm wedi 48 munud; Nelson yn gywir unwaith eto gyda’r trosiad.
Fe wnaeth Cymru ymateb gyda chyfnod cryf o ymosod a wnaeth arwain at eu cais cyntaf, gyda’r prop Sisilia Tuipulotu yn gyrru ei ffordd dros y llinell gais, cyn i Bevan ychwanegu’r trosiad.
Fe wnaeth yr Alban reoli’r meddiant wedi hynny, gan rhoi pwysau ar y Cymry dwfn yn hanner eu hunain.
Ar ôl gorfodi cic gosb arall ar 73 munud, llwyddodd Nelson i ychwanegu triphwynt hollbwysig arall i’w mantais ag agor bwlch o saith pwynt.
Yn ystod y diweddglo ffyrnig, fe wnaeth y Cymry taflu popeth at amddiffyn yr Alban ac fe wnaethon nhw daro’n ôl unwaith eto gyda chais gan Alex Callender.
Ond methu gyda’r trosiad hollbwysig yn y funud olaf y gwnaeth Lleucu George, ac fe lwyddodd yr Alban i ddal ymlaen i'w mantais at y chwiban olaf.
Gêm oddi cartref yn erbyn y pencampwyr, Lloegr, fydd nesaf i dîm Ioan Cunningham ddydd Sadwrn nesaf.
Llun: Asiantaeth Huw Evans