Arestio bachgen 12 oed wedi i ferch cael ei thrywanu
Mae bachgen 12 oed wedi cael ei arestio wedi i ferch yn ei harddegau cael ei thrywanu yng Nghaint.
Cafodd y bachgen ei arestio ar amheuaeth o anafu gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Fe gafodd Heddlu Caint eu galw i’r digwyddiad yn ardal Sittingbourne am oddeutu 15.55 ddydd Gwener.
Roedd y ferch wedi cael ei chludo i ysbyty yn Llundain wedi’r ymosodiad er mwyn derbyn triniaeth am ei hanafiadau oedd yn “gyson â chlwyf trywanu.”
Mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr “sefydlog,” meddai Heddlu Caint.
Mae’r heddlu bellach yn apelio am lygad dystion gan annog unrhyw un gyda rhagor o wybodaeth, neu unrhyw un sydd â delweddau CCTV neu fideo, i gysylltu ar unwaith.