Newyddion S4C

Ymosodiad Rwsia: Dros 100 wedi marw wrth i'r Wladwriaeth Islamaidd gymryd cyfrifoldeb

23/03/2024
Rwsia, Crocus City Hall

Mae o leiaf 133 o bobl bellach wedi marw yn dilyn ymosodiad terfysgol mewn neuadd cyngerdd ym Moscow nos Wener.

Fe ddaw'r cadarnhad gan bwyllgor ymchwilio Rwsia bore Sadwrn, gydag o leiaf 145 o bobl hefyd wedi cael eu hanafu.

Mae’r lluoedd yn Rwsia bellach wedi cadarnhau eu bod wedi arestio pedwar person a gymerodd rhan yn yr ymosodiad - a hynny wedi i grŵp terfysgaeth y Wladwriaeth Islamaidd, neu ISIS, gymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Yn ôl adroddiadau papurau newyddion Rwsia, mae pennaeth gwasanaeth diogelwch ffederal y wlad wedi cadarnhau wrth yr Arlywydd Vladimir Putin fod pedwar o bobl allan o’r 11 sydd wedi cael eu harestio wedi cymryd rhan uniongyrchol yn yr ymosodiad. 

Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud nad yw’n amau taw ISIS, neu grŵp sydd yn gysylltiedig ag ISIS, sy’n gyfrifol am yr ymosodiad. 

Ychwanegodd y Tŷ Gwyn ei fod eisoes wedi rhybuddio Rwsia am botensial am ymosodiad ar “dorf fawr” ym Moscow yn gynharach mis Mawrth.

Roedd clipiau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cyfres o ergydion a ffrwydradau yn adeilad Crocus City Hall yn Krasnogorsk nos Wener. 

Y gred yw bod torfeydd wedi ymgynnull i weld y band roc Rwsiaidd Picnic yn y neuadd cyngerdd pan ddechreuodd yr ymosodiad.

Yn dilyn y digwyddiad, mae Gweinidogaeth Diwylliant Rwsia wedi cyhoeddi bod holl adloniant a digwyddiadau torfol y wlad wedi eu canslo.

Nid yw’r Arlywydd Putin wedi cyhoeddi neges uniongyrchol i’w ddinasyddion hyd yma, ond yn ôl un o ddirprwyon y Kremlin, mae wedi dymuno gwellhad buan i’r rheiny a gafodd eu hanafu.

Mae rhai o arweinwyr mwyaf dylanwadol y byd wedi dymuno’n dda i’r Arlywydd Putin yn dilyn yr ymosodiad, gan gynnwys Arlywydd China, Xi Jinping, yn ogystal â Phrif Weinidog India, Narendra Modi.

Mae Wcráin, sy’n rhyfela yn erbyn Rwsia ar hyn o bryd, wedi gwadu unrhyw gysylltiad.

Dywedodd Mykhailo Podolyak, sef cynghorydd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, nos Wener nad oedd gan y wlad "unrhyw beth i'w wneud" â’r digwyddiad.

Yn ôl adroddiadau asiantaeth newyddion gwladwriaeth Rwsia, Ria Novosti, mae asiantaeth ddiogelwch Rwsia bellach wedi cyhoeddi yr oedd y rheiny oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa yn bwriadu croesi'r ffin i Wcráin, gan honni fod ganddyn nhw "cysylltiadau" yno. 

Ond nid yw'r honiadau rheiny wedi'i wirio gan wasanaeth annibynnol hyd yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.