Newyddion S4C

Dros 40 wedi marw mewn ymosodiad ar neuadd gyngerdd yn Rwsia

Rwsia

Mae adroddiadau o ddigwyddiad yn cynnwys achosion o saethu mewn lleoliad cyngerdd ar gyrion prifddinas Rwsia.

Mae clipiau fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos cyfres o ergydion a ffrwydradau yn y lleoliad yn Moscow.

Mae asiantaeth newyddion RIA yn adrodd mai Crocus City Hall yn Krasnogorsk yw'r lleoliad dan sylw. 

Yn ôl Sky News, mae o leiaf 40 o bobl wedi eu lladd, a thros 100 wedi eu hanafu.

Mae RIA yn adrodd bod plant ymhlith y rhai sydd wedi eu hanafu.

Mae rhai fideos sydd heb eu gwirio ar-lein yn dangos tân mawr ar do'r hyn sy'n ymddangos fel yr un adeilad.

Yn dilyn y digwyddiad, mae Gweinidogaeth Diwylliant Rwsia wedi cyhoeddi bod holl adloniant a digwyddiadau torfol y wlad wedi eu canslo.

Y gred yw bod torfeydd yn ymgynnull i weld y band roc Rwsiaidd Picnic yn y lleoliad cyngerdd pan ddechreuodd yr ymosodiad.

Nid yw'n glir hyd yma pwy sy'n gyfrifol am yr ymosodiad.

Ond mae'r Wladwriaeth Islamaidd wedi honni ei fod wedi ymosod ar neuadd gyngerdd ger Moscow, meddai sianel Telegram y grŵp.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.