Cymru i herio'r Alban yng ngêm gyntaf Chwe Gwlad y Merched
Yr Alban yw gwrthwynebwyr Cymru yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched ddydd Sadwrn.
Fe fydd Cymru yn gobeithio gorffen yn y trydydd safle eto eleni, ar ôl gorffen y tu ôl i Loegr a Ffrainc yn 2023.
Mae'r cyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2025 hefyd yn y fantol eleni.
Fe fydd pwy bynnag sydd yn gorffen uchaf allan o Gymru, Yr Alban, Iwerddon ac Yr Eidal yn sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.
Mae Lloegr a Ffrainc eisoes wedi cymhwyso.
Fe fydd Jenny Hesketh yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru, ac fe fydd yn ymuno gyda Jasmine Joyce a Nel Metcalfe yn y cefn.
Mae disgwyl i'r mewnwr Sian Jones wneud ei hymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc.
Dywedodd y prif hyfforddwr Ioan Cunningham: "Mae'r Alban ar rediad o fuddugoliaethau ar hyn o bryd a gyda hyder ar ôl ennill WXV2.
"Mae pob dim yn y fantol ddydd Sadwrn. Rydym yn falch ein bod ni gartref o flaen ein cefnogwyr ac mae'n rhaid i ni geisio dechrau mor dda â phosib."
Tim Cymru yn erbyn Yr Alban:
15 Jenny Hesketh
14 Jasmine Joyce
13 Hannah Jones (capten)
12 Kerin Lake
11 Nel Metcalfe
10 Lleucu George
9 Keira Bevan;
1 Gwenllian Pyrs
2 Kelsey Jones
3 Sisilia Tuipulotu
4 Natalia John
5 Abbie Fleming
6 Alisha Butchers
7 Alex Callender (dirprwy-gapten)
8 Bethan Lewis.
Eilyddion:
16 Carys Phillips
17 Abbey Constable
18 Donna Rose
19 Georgia Evans
20 Kate Williams
21 Sian Jones
22 Niamh Terry
23 Carys Cox