Newyddion S4C

Gêm bêl-droed i godi arian i blentyn â chyflwr prin gyda chefnogaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney

23/03/2024
Louis Perrin

Mae gêm bêl-droed yn cael ei chynnal yn Wrecsam ddydd Sadwrn i godi arian ar gyfer plentyn pedair oed sydd â chyflwr prin.

Ganed Louis, sy'n fab i Aaron a Charlotte Perrin, gyda chyflwr genetig prin o’r enw TUBA1A, sy’n achosi iddo gael sbasmau poenus yn ei goesau, symudedd cyfyngedig, epilepsi a pharlys yr ymennydd.

Sefydlodd ei rieni dudalen JustGiving ddau fis yn ôl er mwyn codi £40,000 i addasu eu cartref yn Wrecsam.

Mae’r apêl bellach wedi codi mwy o arian na’r targed, a dywedodd Ms Perrin “nad oeddem yn ei ddisgwyl o gwbl”.

Mae pobl leol, gan gynnwys aelodau o Glwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam, yn ogystal â sêr Hollywood wedi cyfrannu at yr achos.

Ym mis Chwefror, fe wnaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney, sef perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, gyfraniad o £10,000. 

Mae'r actor o Gymru Michael Sheen hefyd wedi rhoi £5,000 at yr achos.

Fe sefydlodd Clwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam dudalen JustGiving ar wahân sydd wedi bwydo i mewn i brif dudalen y teulu, ac maen nhw wedi trefnu i chwarae gêm elusennol yn erbyn Dreigiau Gogledd Cymru ym Mharc Colliers ddydd Sadwrn.

'Cyffrous'

Dywedodd Ms Perrin, 32, sy'n gweithio i'r gwasanaethau brys, fod y teulu yn “edrych ymlaen” i fynychu’r gêm.

“Mae Louis wrth ei fodd yn gwylio unrhyw bêl-droed,” meddai.

“Mae Dave o Glwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam yn ceisio cael crys Heddlu Wrecsam iddo wisgo, felly croesi bysedd.”

Ychwanegodd fod cefnogaeth gan Reynolds, McElhenney a Sheen wedi bod yn “uchafbwynt”, ond bod cefnogaeth gan bobl leol hefyd wedi cael ei werthfawrogi.

“Fe gawson ni raffl elusennol a noson gwis un dydd Gwener ac fe gawson ni le am ddim ac roedd y staff yn gweithio am ddim,” meddai.

“Roedd y lle dan ei sang gyda phobl yn dod i gefnogi Louis.

“Mae un o’r siopau trin gwallt lleol hefyd wedi gwneud diwrnod gwallt gwallgof.

“Mae gan bawb eu bywydau a’u hymrywmiadau eu hunain, ond mae’n braf iawn bod pobl yn mynd allan o’u ffordd i’n helpu ni.” 

Bydd y gwaith adeiladu estyniad yn cael ei gychwyn yn yr wythnosau nesaf, a fydd yn cynnwys ystafell wlyb ac ystafell wely i Louis.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.