Newyddion S4C

Y cyn-chwaraewr rygbi Nathan Brew yn siarad am y tro cyntaf am lofruddiaeth ei frawd

23/03/2024
nathan brew.png

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru Nathan Brew, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am lofruddiaeth ei frawd mewn ymosodiad y tu allan i glwb nos yng Nghastell Nedd yn 2022.

Yn y rhaglen Nathan Brew: Un Eiliad Un Ergyd, mae Nathan a'i chwiorydd, Rachel Brew a Kath Thomas, yn rhannu hanes eu brawd, Matthew Thomas oedd yn 47 oed. 

Fe gafodd Matthew ei daro gan Daniel Pickering unwaith yn unig, a bu farw yn sgil yr ymosodiad. 

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae un o bob 10 llofruddiaeth a dynladdiad a gafodd eu cofnodi yng Nghymru wedi eu hachosi gan ymosodiad un ergyd.

Derbyniodd Daniel Pickering, 34, ddedfryd lleiafswm o 18 mlynedd dan glo, gyda'r heddlu'n disgrifio'r ymosodiad fel un heb reswm.

Roedd wedi bod yn yfed alcohol drwy’r dydd ac wedi cymryd gwerth dros £100 o cocên cyn iddo ymosod ar Matthew Thomas.

Dywedodd Nathan: "Ni fel teulu nawr yn llawer mwy agos ar ôl beth sydd wedi digwydd i Matthew na cynt, achos mae trasiedi fel hyn yn dod â chi gyd gyda’ch gilydd.

"O’n i ffaelu derbyn y ffaith rwy’n credu yn edrych nôl. O’n i’n meddwl ‘what’s this going to achieve?’ ond nes i snapo allan ohono fe. 

"Es i fewn at Matthew - jest ni’n dau, ac o’n i’n ymddiheuro iddo fe am y ffaith falle bod ni ddim mor agos ag oedden ni pan o’n i’n tyfu lan."

'Dim remorse'

Wrth gofio yn ôl i'r diwrnod y cafodd Pickering ei ddedfrydu, dywedodd Nathan: "O’dd look hollol ddidrugaredd ar ei wyneb. O’dd dim remorse o gwbl.

“I glywed yr hanes tu ôl i Daniel Pickering – bod e 'di gwneud rhywbeth tebyg cynt (er nid i’r un lefel) - o’dd hwnna’n gwneud ni’n eithaf crac, nid jest at Daniel Pickering ond at y system achos dyle fe byth fod wedi bod allan."

Ychwanegodd DS Neil Jones o Heddlu De Cymru: "Fel arfer, dynion yn eu hugeiniau neu dridegau sy’n mynd mas ac yfed gormod a chymryd cyffuriau sy’n troseddu. Pan mae cymysgedd o’r ddau beth, mae pobl yn mynd i fihafio’n wahanol. 

“Ni’n cael nifer bob blwyddyn sy’n anffodus yn marw o ganlyniad i ymosodiad un ergyd. 

"Adeg Covid roedd lot llai; doedd tafarndai ddim ar agor; doedd pobl ddim yn mynd mas shwt gymaint, Ond nawr, mae’r ymosodiadau wedi cynyddu unwaith eto.

“Yn yr un eiliad ‘na ma’ byd pobl yn cwympo dan eu traed. I’r heddlu mae’n achosi gwaith, ond yn bennaf, beth sy’n digwydd i’r teulu. Mae’n dostrwydd i weld teulu yn ymateb i rhywbeth mor ddibwrpas.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.