Newyddion S4C

'Dwy wlad rygbi balch': Tîm rygbi Georgia yn rhoi her gyhoeddus i Gymru

22/03/2024
Cymru v Georgia

Mae tîm rygbi Georgia wedi herio Cymru yn gyhoeddus i wynebu'r wlad mewn gêm brawf yn yr hydref.

Fe orffennodd Cymru ar waelod tabl y Chwe Gwlad eleni, gan hawlio’r llwy bren am y tro cyntaf ers 21 mlynedd ar ôl colli eu pum gêm.

Ar yr un penwythnos a gollodd y Cymry gartref yn erbyn yr Eidal, llwyddodd Georgia i ennill Pencampwriaeth Rygbi Ewrop – y gystadleuaeth ail haen y cyfandir – am y seithfed tro yn olynol.

Mae galwadau wedi eu gwneud ers sawl blwyddyn i Georgia gael cystadlu am le yn y Chwe Gwlad, gyda rhai yn awgrymu y dylai enillwyr Pencampwriaeth Ewrop gael chwarae yn erbyn y tîm ar waelod y Chwe Gwlad, am le yn y brif bencampwriaeth.

Fore Gwener, fe wnaeth cyfrif swyddogol Undeb Rygbi Georgia gyhoeddi neges eu cyfrif Twitter yn gwahodd tîm Warren Gatland am gêm yn y brifddinas Tblisi, yn yr hydref.

 “Yn dilyn dadlau eang ar draws y byd rygbi ar ôl diwedd y pencampwriaethau'r Chwe Gwlad a Rygbi Ewrop , mae Georgia yn gwahodd Cymru i chwarae gêm brawf rhyngwladol yn yr hydref.

“Mae perthynas gwych rhwng chwaraewyr a chefnogwyr ein dwy wlad rygbi balch ac rydym wedi cael rhai gemau cystadleuol gwych.

“Mae’n anrhydedd i ni wahodd Cymru i Tbilisi – a chwarae gêm yn ôl yng Nghaerdydd pryd bynnag y bo’n gyfleus.

“Felly, gadewch i ni wneud iddo ddigwydd. Yn Georgia, rydyn ni’n hoffi dweud mai ‘Anrheg yw gwestai’.

“Ni allwn feddwl am anrheg well na chroesawu’r Cymry i Tbilisi yn yr hydref .”

Nid yw gemau tîm dynion Cymru ar gyfer yr hydref eleni wedi eu cadarnhau eto.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm cwrdd, fe enillodd Cymru o 43-19 yng Nghwpan Rygbi’r Byd y llynedd.

Ond y tro diwethaf i Georgia ymweld â Chaerdydd yn Nhachwedd 2022, fe lwyddodd y Lelos i drechu’r Cymry am y tro cyntaf yn eu hanes, gyda buddugoliaeth 13-12.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.